Back to home page To Welsh language site
Prisiau tai
Cofrestru'ch tir
e-drawsgludo
Addysg a hyfforddiant
Eich hawliau gwybodaeth
Ymarfer
Gwybodaeth am eiddo
E-wasanaethau
Land Registry Direct
Find a property

Cyfyngiadau safonol

Mae'r dudalen hon yn cynnwys y newidiadau Rheol sydd i'w gweld yn Rheolau Cofrestru Tir (Newidiad) 2005.

Ffurf G (Tenant am oes fel perchennog cofrestredig tir setledig, lle bo ymddiriedolwyr i'r setliad)

Nid oes gwarediad i'w gofrestru oni bai yr awdurdodir hynny gan Ddeddf Tir Setledig 1925, neu gan unrhyw estyniad i'r pwerau statudol hynny yn y setliad, nac unrhyw warediad o dan yr hyn y mae arian cyfalaf yn codi i'w gofrestru oni bai fod yr arian yn cael ei dalu i (enw) o (cyfeiriad) a (enw) o (cyfeiriad), (ymddiriedolwyr y setliad, a all fod yn unig gorfforaeth ymddiried neu, os yn unigolion, rhaid bod o leiaf dau ond nid mwy na phedwar ohonynt) neu i'r llys.

Nodyn - Os yw'n berthnasol yn ôl telerau'r setliad, mae modd ychwanegu darpariaeth bellach nad oes unrhyw drosglwyddiad o'r plasty (a ddangosir ar y cynllun ynghlwm neu wedi'i ddisgrifio fel arall yn ddigonol er mwyn gallu ei adnabod yn llawn ar y map Arolwg Ordnans neu'r cynllun teitl) i'w gofrestru heb ganiatâd yr ymddiriedolwyr a enwyd neu orchymyn y llys.