Yn ôl i'r hafan To English language site
Prisiau tai
Cofrestru'ch tir
E-drawsgludo
Addysg a hyfforddiant
Eich hawliau gwybodaeth
Ymarfer
Gwybodaeth am eiddo
E-wasanaethau
E-wasanaethau busnes
Chwilio am eiddo
E-lofnod morgais
Y Gofrestrfa Tir Uniongyrchol

Cynnyrch ychwanegu gwerth
Cynlluniau cyhoeddiadau

Cyfyngiadau safonol

Mae'r dudalen hon yn cynnwys y newidiadau Rheol sydd i'w gweld yn Rheolau Cofrestru Tir (Newidiad) 2005.

Ffurf P (Gwarediad gan berchennog cofrestredig ystad gofrestredig neu berchennog arwystl - caniatâd perchennog arwystl penodol neu dystysgrif yn ofynnol)

Nid oes gwarediad [neu rhowch fanylion] o'r ystad gofrestredig [(ac eithrio arwystl)] gan berchennog yr ystad gofrestredig [neu gan berchennog unrhyw arwystl cofrestredig] i'w gofrestru heb ganiatâd ysgrifenedig wedi ei lofnodi gan berchennog am y tro yr arwystl dyddiedig [dyddiad], o blaid [arwystlai] y cyfeirir ato yn y gofrestr arwystlon [(neu ei drawsgludwr neu rhowch fanylion priodol)] neu, os yw'n briodol, wedi ei lofnodi ar ran y cyfryw berchennog gan [ei ysgrifennydd neu ei drawsgludwr neu rhowch fanylion priodol].

Nodyn - gall testun y cyfyngiad barhau, fel a ganlyn, er mwyn caniatáu ar gyfer darparu tystysgrif fel dewis arall yn lle'r caniatâd.

[neu heb dystysgrif [wedi ei llofnodi gan [enw] o [cyfeiriad] [neu [ei drawsgludwr] neu rhowch fanylion priodol]] neu [wedi ei llofnodi ar ran [enw] o [cyfeiriad] gan [ei ysgrifennydd neu ei drawsgludwr neu rhowch fanylion priodol]] neu [wedi ei llofnodi gan drawsgludwr] neu [wedi ei llofnodi gan y ceisydd i gofrestru [neu ei drawsgludwr]] y cydymffurfiwyd â darpariaethau [nodwch y cymal, y paragraff neu fanylion eraill] [rhowch fanylion]].