Mae'r dudalen hon yn cynnwys y newidiadau Rheol sydd i'w gweld yn Rheolau Cofrestru Tir (Newidiad) 2005.
Ffurf R (Gwarediad gan berchennog cofrestredig ystad gofrestredig neu berchennog arwystl - tystiolaeth o gydymffurfio â rheolau clwb yn ofynnol) Nid oes gwarediad [neu rhowch fanylion] o'r ystad gofrestredig [(ac eithrio arwystl)] gan berchennog yr ystad gofrestredig [neu gan berchennog unrhyw arwystl cofrestredig] i'w gofrestru oni bai yr awdurdodir hynny gan reolau [enw'r clwb] o [cyfeiriad] fel y tystiwyd [trwy benderfyniad ei aelodau neu trwy dystysgrif wedi ei llofnodi gan ei ysgrifennydd neu drawsgludwr [neu rhowch fanylion priodol]]. |