Ychwanegodd Rheolau Cofrestru Tir (Newidiad) (Rhif 2) 2005 reol newydd, sef rheol 58A, at Reolau Cofrestru Tir 2003. Mae Rheol 58A yn pennu'r gofyniad bod rhaid i brydles a roddwyd ar neu ar ôl 19 Mehefin 2006 sy'n dod o dan adran 27(2)(b) Deddf Cofrestru Tir 2002 ac mae'n rhaid ei chofrestru, fod ar ffurf prydles cymalau penodedig, heblaw nifer fach o eithriadau.
Prydlesi sydd wedi'u cynnwys o fewn adran 27(2)(b) yw'r rheiny sy'n warediad o ystad gofrestredig mewn tir a roddwyd am gyfnod o flynyddoedd absoliwt - - am gyfnod o fwy na saith mlynedd o'r dyddiad rhoi,
- sy'n dod i rym mewn meddiant ar ôl diwedd y cyfnod o dri mis yn dechrau gyda'r dyddiad rhoi
- y mae'r hawl meddiant yn amharhaol oddi dano
- wedi'u gwneud yn unol â Rhan 5 Deddf Tai 1985 (yr hawl i brynu)
- dan amgylchiadau pan fydd adran 171A Deddf Tai 1985 yn berthnasol (gwaredu gan landlord sy'n arwain at unigolyn yn peidio â bod yn denant sicredig).
Fe welwch fanylion am yr eithriadau i'r rheol uchod yn y bennod 'Eithriadau'.
Defnydd gorfodol O ganlyniad i reol 58A, rhaid i brydlesi a roddwyd ar neu ar ôl 19 Mehefin 2006 sy'n dod o dan adran 27(2)(b) DCT 2002 ac mae'n rhaid eu cofrestru, fod ar ffurf prydles cymalau penodedig oni bai eu bod wedi'u cwmpasu gan un o'r eithriadau.
Ceisiadau i nodi buddion wedi'u cynnwys mewn prydlesi Os yw defnyddio'r cymalau yn orfodol, gellir defnyddio cymalau LR9,10,11,12 a 13 i gofrestru buddion yn y brydles yn lle defnyddio ffurflenni AN1, AP1, RX1 neu UN1 (fel y bo'n briodol). Mae mwy o fanylion ar gael yn y bennod 'Defnyddio'r cymalau'. Dyma ddiwedd y bennod ar ofynion statudol. |