www.landregistry.gov.uk
www.landregistry.gov.uk

COA | Cysylltu â ni | Map o'r wefan
English | Cymraeg
Prisiau tai
E-drawsgludo
Gwasanaethau Add Value
E-wasanaethau busnes
Chwilio am eiddo
E-lofnod morgais
Cofrestru eich tir
Addysg a hyfforddiant
Ymarfer
Gwybodaeth am eiddo
Eich hawliau gwybodaeth
Siarter Gwybodaeth
Amdanom ni
Cynlluniau Cyhoeddiadau
Telerau ac amodau

© Hawlfraint y Goron 2010

Prydlesi Cymalau Penodedig Gofynion statudol Contents Previous Next

    Gofynion statudol

    Ychwanegodd Rheolau Cofrestru Tir (Newidiad) (Rhif 2) 2005 reol newydd, sef rheol 58A, at Reolau Cofrestru Tir 2003. Mae Rheol 58A yn pennu'r gofyniad bod rhaid i brydles a roddwyd ar neu ar ôl 19 Mehefin 2006 sy'n dod o dan adran 27(2)(b) Deddf Cofrestru Tir 2002 ac mae'n rhaid ei chofrestru,  fod ar ffurf prydles cymalau penodedig, heblaw nifer fach o eithriadau.

    Prydlesi sydd wedi'u cynnwys o fewn adran 27(2)(b) yw'r rheiny sy'n warediad o ystad gofrestredig mewn tir a roddwyd am gyfnod o flynyddoedd absoliwt -

    • am gyfnod o fwy na saith mlynedd o'r dyddiad rhoi,
    • sy'n dod i rym mewn meddiant ar ôl diwedd y cyfnod o dri mis yn dechrau gyda'r dyddiad rhoi
    • y mae'r hawl meddiant yn amharhaol oddi dano  
    • wedi'u gwneud yn unol â Rhan 5 Deddf Tai 1985 (yr hawl i brynu)
    • dan amgylchiadau pan fydd adran 171A Deddf Tai 1985 yn berthnasol (gwaredu gan landlord sy'n arwain at unigolyn yn peidio â bod yn denant sicredig).

    Fe welwch fanylion am yr eithriadau i'r rheol uchod yn y bennod 'Eithriadau'.

    Defnydd gorfodol

    O ganlyniad i reol 58A, rhaid i brydlesi a roddwyd ar neu ar ôl 19 Mehefin 2006 sy'n dod o dan adran 27(2)(b) DCT 2002 ac mae'n rhaid eu cofrestru, fod ar ffurf prydles cymalau penodedig oni bai eu bod wedi'u cwmpasu gan un o'r eithriadau.

    Ceisiadau i nodi buddion wedi'u cynnwys mewn prydlesi

    Os yw defnyddio'r cymalau yn orfodol, gellir defnyddio cymalau LR9,10,11,12 a 13 i gofrestru buddion yn y brydles yn lle defnyddio ffurflenni AN1, AP1, RX1 neu UN1 (fel y bo'n briodol). Mae mwy o fanylion ar gael yn y bennod 'Defnyddio'r cymalau'.

    Dyma ddiwedd y bennod ar ofynion statudol.