Back to home page To Welsh language site
Prisiau tai
Cofrestru'ch tir
e-drawsgludo
Addysg a hyfforddiant
Eich hawliau gwybodaeth
Ymarfer
Gwybodaeth am eiddo
E-wasanaethau
Land Registry Direct
Find a property

Crynodeb

Cyn 19 Mehefin 2006

Gellir defnyddio'r cymalau yn wirfoddol mewn unrhyw brydles. Os defnyddir y cymalau, gall fod angen gwneud cais ychwanegol ar ffurflen AP1, AN1 neu UN1 (fel y bo'n briodol) hefyd i nodi neu gofrestru buddion arbennig. (Gweler 'Defnyddio'r cymalau' am fwy o fanylion).

O 19 Mehefin 2006

Ar wahân i nifer fach o eithriadau, rhaid i brydlesi y cyfeirir atynt yn adran 27(2)(b) DCT 2002, a roddir ar neu ar ôl 19 Mehefin 2006 fod ar ffurf prydles cymalau penodedig. Gall methu â defnyddio'r cymalau olygu bod y cais i gofrestru yn cael ei wrthod.

Eithriadau

Nid oes rhaid i brydlesi a grybwyllir yn adran 27(2)(b) gynnwys y cymalau os yw fformat y brydles wedi'i bennu yn y canlynol:

  • cytundeb a wnaed cyn 19 Mehefin 2006
  • gorchymyn y llys
  • deddfiad
  • cydsyniad gofynnol neu drwydded i roi'r brydles a roddwyd cyn 19 Mehefin 2006.

Rhaid cyflwyno unrhyw gais am eithriad yn ysgrifenedig.

Cwblhau'r cymalau

  • Bydd y wybodaeth a ddarperir yn y cymalau yn cael ei defnyddio i greu'r gofrestr teitl. Felly mae'n bwysig eu cwblhau'n gywir.
  • Rhaid cwblhau cymalau LR2.1 a LR2.2 gyda'r holl rifau teitl perthnasol.
  • Bydd methu â chwblhau rhai o'r cymalau (er enghraifft LR3) yn golygu y caiff y cais ei wrthod.
  • Bydd methu â chwblhau cymalau LR9 a 10 lle bo'n briodol yn golygu na fydd y budd perthnasol yn cael ei gofrestru oni bai fod cais penodol ar ffurflen AP1 yn cael ei wneud hefyd. (Gweler 'Defnyddio'r cymalau' am fwy o fanylion.)
  • Mae methu â chwblhau cymal LR11 gyda manylion unrhyw hawddfreintiau sydd i'w cofrestru, neu gyflwyno cais ar wahân ar ffurflen AP1, yn golygu na fydd gofynion cofrestru adran 27(2)(d) DCT 2002 yn cael eu bodloni.

Newidiadau a hepgoriadau

  • Gall mân newidiadau clercio i'r cymalau gael eu gwneud, mewn rhai achosion, dan reol 130 RhCT 2003.
  • Gall fod angen gwneud cais ar wahân ar gyfer newidiadau eraill (cofrestru cyfyngiad ac ati).
  • Bydd angen gweithred gywiro ar gyfer rhai sefyllfaoedd (newid i'r stent a brydleswyd ac ati).
  • Gellir gwneud cais naill ai pan fydd y brydles yn cael ei chyflwyno i'w chofrestru, yn ystod y broses gofrestru, neu ar ôl cofrestru.
  • Gall ffïoedd ychwanegol fod yn daladwy mewn rhai achosion.

Canllawiau pellach

  • Mae Cyfarwyddyd Ymarfer 64 - Prydlesi cymalau penodedig y Gofrestrfa Tir ar gael ar-lein neu yn unrhyw swyddfa'r Gofrestrfa Tir.
  • Mae llinell gymorth y Gofrestrfa Tir (ffôn: 08709 088062) yn rhoi cymorth pellach os oes angen.

Dyma ddiwedd y crynodeb a diwedd y modiwl.