Back to home page To Welsh language site
Prisiau tai
Cofrestru'ch tir
e-drawsgludo
Addysg a hyfforddiant
Eich hawliau gwybodaeth
Ymarfer
Gwybodaeth am eiddo
E-wasanaethau
Land Registry Direct
Find a property

Prydlesi Cymalau Penodedig Defnyddio'r cymalau Contents Previous Next

Defnyddio'r cymalau

Defnyddiwch y tabl isod i weld pryd y dylid defnyddio'r cymalau a phryd mae angen ffurflen gais ar wahân i nodi buddion penodol

Cais yn gofrestriad cyntaf

Nid oes rhaid i chi ddefnyddio'r cymalau, ond gallwch eu defnyddio'n wirfoddol. Os felly, gellir defnyddio cymal LR13 ar gyfer cyfyngiad safonol yn lle ffurflen RX1; cwblhewch gymal LR2.2 os yw'n briodol.

Ac eithrio yn achos prydles rhan-berchnogaeth, rhaid defnyddio ffurflen AN1 neu UN1 ar gyfer buddion yng nghymalau LR9.1 a LR10 os ydynt yn effeithio ar deitlau cofrestredig.

Nid oes angen gwneud cais ar wahân i gofrestru hawddfreintiau yn y brydles. Bydd yr hawddfreintiau yn cael eu hymchwilio gan y Gofrestrfa Tir fel rhan o'r drefn archwilio teitl ac os ydynt yn ddilys cânt eu cofrestru yn erbyn y tir caeth (os yw wedi'i gofrestru).

Cais yn brydles o dir cofrestredig a roddwyd cyn 19 Mehefin 2006

Nid oes rhaid i chi ddefnyddio'r cymalau, ond gallwch eu defnyddio'n wirfoddol. Os felly, gellir defnyddio cymal LR13 ar gyfer cyfyngiad safonol yn lle ffurflen RX1; cwblhewch gymal LR2.2 os yw'n briodol.

Ac eithrio yn achos prydles rhan-berchnogaeth, rhaid defnyddio ffurflen AN1 neu UN1 ar gyfer buddion yng nghymalau LR9 a 10 os ydynt yn effeithio ar deitl y landlord a ddangosir yng nghymal LR2.1, teitl y tenant sy'n cael ei gofrestru neu deitl cofrestredig arall.

Rhaid gwneud cais ar wahân i gofrestru hawddfreintiau yn y brydles sy'n effeithio ar deitl cofrestredig heblaw'r tir a brydleswyd neu deitl y landlord a ddatgelir yng nghymal LR2.1.

Cais yn brydles o dir cofrestredig a roddwyd ar neu ar ôl 19 Mehefin 2006 ond nid oes rhaid defnyddio'r cymalau dan reol 58A(4)(c) neu (d) RhCT 2003

Nid oes rhaid i chi ddefnyddio'r cymalau. Rhaid i'r cais am eithriad gael ei ategu gan dystysgrif gan drawsgludwr yn esbonio'r rhesymau, neu dystiolaeth briodol arall.

Bydd buddion a fyddai wedi cael eu datgelu yng nghymalau LR9,10,11 a 12 yn cael eu nodi yn erbyn teitl y landlord a theitl y tenant sy'n cael ei gofrestru, fel bo'n briodol, heb fod angen gwneud cais ar wahân.

Fodd bynnag os yw'r buddion yn effeithio ar deitl cofrestredig arall mae cais ar wahân yn ofynnol oni bai fod y rhif teitl yn cael ei nodi ym mhanel 2 ffurflen AP1 a gyflwynir gyda'r cais.

Prydles yn warediad o ystad gofrestredig mewn tir, a roddwyd ar neu ar ôl 19 Mehefin 2006 ac mae'n ofynnol ei chofrestru.

Mae defnyddio'r cymalau yn orfodol.

Gallwch ddefnyddio cymalau LR9,10,11,12 a 13 yn lle ffurflenni AP1, AN1, RX1 neu UN1. Rhaid cwblhau cymal LR2.2 gyda rhif(au) teitl y teitlau yr effeithir arnynt (heblaw teitl y landlord a ddangosir yng nghymal LR2.1).

Os ydych yn cyfeirio at y rhifau teitl priodol ym mhanel 2 ffurflen AP1 a gyflwynir gyda'r cais, yn lle defnyddio cymal LR2.2, ar gyfer buddion yng nghymalau LR8 a LR11, bydd camau'n cael eu cymryd dim ond os ydych hefyd yn cyfeirio ar y ffurflen at gymal y brydles sy'n cynnwys y budd.

Sylwch fod rhaid defnyddio ffurflen RX1 bob amser i gofrestru cyfyngiad ansafonol.