Back to home page To Welsh language site
Prisiau tai
Cofrestru'ch tir
e-drawsgludo
Addysg a hyfforddiant
Eich hawliau gwybodaeth
Ymarfer
Gwybodaeth am eiddo

EULIS

Ydy'ch busnes yn mynd â chi i Ewrop? Os ydy, ymunwch â chynllun peilot EULIS

Rydym yn chwilio am gwsmeriaid i fod yn ddefnyddwyr peilot cyfleuster newydd a fydd maes o law ar gael i holl ddefnyddwyr y Gofrestrfa Tir Uniongyrchol. Bydd y cyfleuster hwn  yn caniatáu i chi gysylltu ag EULIS a gwneud ymholiadau i wasanaethau’r gwledydd a restrir isod.

Anfonwch ebost at admin@landregistrydirect.gov.uk nawr os oes gennych ddiddordeb mewn ymuno â'r peilot..

 What is EULIS?

Mae gwefan pob gwlad yn wahanol, ac mae rhai yn darparu gwybodaeth nad yw ar gael ar wefannau gwledydd eraill. Fodd bynnag, mae pob gwlad yn caniatáu chwiliad ar sail cyfeiriad post ac mae gwasanaethau Lithwania a'r Iseldiroedd yn cynnig chwiliad ar sail map.

 Wjy has this service been established?

Y bwriad tu ôl i EULIS yw cefnogi marchnad eiddo sengl yn Ewrop a benthyciadau ar draws ffiniau; mae’n gwneud hyn trwy ddarparu gwybodaeth am sut mae systemau trawsgludo a chofrestru yn gweithio yn y gwledydd sy’n aelodau.  Mae'n caniatáu i gwsmeriaid gael mynediad i wybodaeth a gwasanaethau mewn gwledydd eraill ar-lein: holl wasanaethau cofrestru tir ac eiddo Ewrop ar gael trwy borth sengl.

 

EULIS yw’r Gwasanaeth Gwybodaeth Tir Ewropeaidd. rhwydwaith o gofrestrfeydd tir Ewrop sy’n cydweithio i ddarparu mynediad electronig i wybodaeth a gwasanaethau cofrestru tir i gwsmeriaid ar hyd a lled Ewrop.

Ar hyn o bryd mae’r gwledydd canlynol yn rhan o EULIS: Cymru a Lloegr, Gweriniaeth Iwerddon, Yr Alban, Awstria, Y Ffindir, Lithwania, Yr Iseldiroedd, Norwy a Sweden. Disgwylir i wledydd eraill ymuno â nhw.

I gael rhagor o wybodaeth ewch i eulis.org.

 How does it work?

Mae Porth EULIS yn caniatáu i gwsmer ddefnyddio gwasanaeth ar-lein ei wlad ei hun i gael mynediad i wasanaeth gwlad arall. Ar hyn o bryd mae’n bosibl cael mynediad i wasanaethau Cymru a Lloegr, Gweriniaeth Iwerddon, Norwy, Sweden, Lithwania, a'r Iseldiroedd o wledydd eraill.

Er enghraifft os yw cwsmer yng Nghymru neu Loegr am gael manylion perchnogaeth eiddo tir yn Sweden,  copïau swyddogol ar gyfer eiddo penodol ac eglurhad o gofnodion yn y gofrestr, gall fewngofnodi i wasanaeth y Gofrestrfa Tir Uniongyrchol sy'n rhoi mynediad i Borth EULIS.