Rhagfyr 2011: 257.2
(Ionawr 1995: 100)
|
Pris cyfartalog £160,384
|
|
| Newid | Misol 0% |
| Blynyddol -1.3% | |
Mynegai nesaf: 11 y bore ar 28 Chwefror 2012
Mae Mynegai Prisiau Tai y Gofrestrfa Tir yn adlewyrchu newidiadau yng ngwerth eiddo preswyl. Mae'r Mynegai yn seiliedig ar ddata gwerthiannau sy'n cael ei gasglu ar gyfer yr holl drafodion eiddo preswyl, yng Nghymru a Lloegr ers Ionawr 1995, p'un ai am arian parod neu gyda morgais. Gallwch chwilio mynegeion ar lefel genedlaethol yn ogystal ag ar gyfer y gwahanol ranbarthau, siroedd a bwrdeistrefi Llundain.
Mae'n Mynegai yn defnyddio sampl o faint sy'n fwy na'r holl fesurau ystadegol eraill sydd ar gael. Set ddata'r Gofrestrfa Tir yw'r unig gofnod cyflawn o drafodion eiddo preswyl yng Nghymru a Lloegr
Mae'r Mynegai yn cael ei gyfrifo gan ddefnyddio set ddata 'Pris a Dalwyd' y Gofrestrfa Tir. Cofnod yw hwn o'r holl drafodion eiddo preswyl a wnaethpwyd yng Nghymru a Lloegr ers Ionawr 1995. Ar hyn o bryd mae'n cynnwys manylion mwy na 15miliwn o werthiannau. O'r rhain mae tua pum miliwn yn barau cyfatebol y gellir eu hadnabod, sy'n darparu'r sail ar gyfer y dadansoddiad ailwerthiannau atchweliad a ddefnyddir i lunio'r mynegai. Mae'r dechneg addasu ansawdd hon yn sicrhau ein bod yn cymharu eiddo cyffelyb
Rhagfyr 2011: 257.2
(Ionawr 1995: 100)
|
Pris cyfartalog £160,384
|
|
| Newid | Misol 0% |
| Blynyddol -1.3% | |
Mynegai nesaf: 11 y bore ar 28 Chwefror 2012