www.landregistry.gov.uk
www.landregistry.gov.uk

Prisiau tai

COA | Cysylltu â ni | Map o'r wefan
English | Cymraeg
Prisiau tai
E-drawsgludo
Gwasanaethau Add Value
E-wasanaethau busnes
Chwilio am eiddo
E-lofnod morgais
Cofrestru eich tir
Addysg a hyfforddiant
Ymarfer
Gwybodaeth am eiddo
Eich hawliau gwybodaeth
Siarter Gwybodaeth
Amdanom ni
Cynlluniau Cyhoeddiadau
Telerau ac amodau

© Hawlfraint y Goron 2010

 Ynglŷn â’n Mynegai Prisiau Tai

Mae Mynegai Prisiau Tai y Gofrestrfa Tir yn adlewyrchu newidiadau yng ngwerth eiddo preswyl. Mae'r Mynegai yn seiliedig ar ddata gwerthiannau sy'n cael ei gasglu ar gyfer yr holl drafodion eiddo preswyl, yng Nghymru a Lloegr ers Ionawr 1995, p’un ai am arian parod neu gyda morgais. Gallwch chwilio mynegeion ar lefel genedlaethol yn ogystal ag ar gyfer y gwahanol ranbarthau, siroedd a bwrdeistrefi Llundain.


Mae'n Mynegai yn defnyddio sampl o faint sy'n fwy na'r holl fesurau ystadegol eraill sydd ar gael. Set ddata'r Gofrestrfa Tir yw'r unig gofnod cyflawn o drafodion eiddo preswyl yng Nghymru a Lloegr.


Mae'r Mynegai yn cael ei gyfrifo gan ddefnyddio set ddata 'Pris a Dalwyd' y Gofrestrfa Tir. Cofnod yw hwn o'r holl drafodion eiddo preswyl a wnaethpwyd yng Nghymru a Lloegr ers Ionawr 1995. Ar hyn o bryd mae’n cynnwys manylion mwy na 15miliwn o werthiannau. O’r rhain mae tua pum miliwn yn barau cyfatebol y gellir eu hadnabod, sy’n darparu’r sail ar gyfer y dadansoddiad ailwerthiannau atchweliad a ddefnyddir i lunio’r mynegai. Mae’r dechneg addasu ansawdd hon yn sicrhau ein bod yn cymharu eiddo cyffelyb.