www.landregistry.gov.uk
www.landregistry.gov.uk

Y wybodaeth ddiweddaraf

COA | Cysylltu â ni | Map o'r wefan
English | Cymraeg
Prisiau tai
E-drawsgludo
Gwasanaethau Add Value
E-wasanaethau busnes
Chwilio am eiddo
E-lofnod morgais
Cofrestru eich tir
Addysg a hyfforddiant
Ymarfer
Gwybodaeth am eiddo
Eich hawliau gwybodaeth
Siarter Gwybodaeth
Amdanom ni
Cynlluniau Cyhoeddiadau
Telerau ac amodau

© Hawlfraint y Goron 2010

Talu ffïoedd trwy Ddebyd Uniongyrchol newidiol

Yn dilyn ymestyn y cynllun yn ddiweddar, mae'r Gofrestrfa Tir nawr yn gallu cynnig y cyfle i gwsmeriaid dalu ffioedd ar gyfer holl wasanaethau'r Gofrestrfa Tir trwy Ddebyd Uniongyrchol. Gellir talu trwy Ddebyd Uniongyrchol ar gyfer unrhyw gais a gyflwynir trwy'r post, ffôn neu trwy'n e-wasanaethau.

Manteision defnyddio'r dull hwn o dalu yw:

  • Asesu a chasglu ffioedd y Gofrestrfa Tir yn gywir
    Ni fydd yn rhaid ichi aros i dderbyn ad-daliad os talwyd gormod gennych ac ni fydd oedi wrth gwblhau ceisiadau oherwydd bod ffi i'w thalu.
  • Rheoli'r dull talu
    Gallwch derfynu'r gorchymyn debyd uniongyrchol ar unrhyw bryd.
  • Gwarantu ad-daliad os digwydd camgymeriad
    Cynllun yw Debyd Uniongyrchol sy'n diogelu buddion y Talwr â gwarant. Mae'r warant Debyd Uniongyrchol yn rhoi sicrwydd i'r Talwr y bydd unrhyw arian a ddebydwyd ar gamgymeriad yn cael ei ad-dalu ar unwaith gan fanc y Talwr.
  • Cefnogi e-drawsgludo
    Trwy gynnig dull electronig o dalu mae'r cynllun debyd uniongyrchol yn cynrychioli cam pwysig tuag at e-gyflwyno a chofrestru uniongyrchol.

Mae manylion pellach ar gael trwy anfon ebost at e-receivables@landregistry.gsi.gov.uk (cofiwch gynnwys enw, sefydliad, manylion cyfeiriad, rhif ffôn a rhif cyfrif credyd presennol (os yw'n briodol)).