Back to home page To Welsh language site
Prisiau tai
Cofrestru'ch tir
e-drawsgludo
Addysg a hyfforddiant
Eich hawliau gwybodaeth
Ymarfer
Gwybodaeth am eiddo

Gwasanaethau Cymraeg

Mae Deddf yr Iaith Gymraeg 1993 yn gosod dyletswydd ar bob corff cyhoeddus i drin y Gymraeg a’r Saesneg yn gyfartal wrth ddarparu gwasanaethau i’r cyhoedd yng Nghymru. O ganlyniad, mae’r Gofrestrfa Tir wedi paratoi Cynllun Iaith Gymraeg o dan Adran 21(3) y Ddeddf a chafodd ei gymeradwyo’n llawn gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg ym Mawrth 1998. Cafodd yr ail argraffiad ei gymeradwyo yn Ionawr 2002, a’r trydydd argraffiad yn Chwefror 2005. Yn unol â darpariaethau’r Cynllun, bydd y Gofrestrfa Tir yn trin y Gymraeg a’r Saesneg yn gyfartal wrth gynnal ei busnes cyhoeddus yng Nghymru.

Gohebiaeth

Mae’r Gofrestrfa Tir yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg neu Saesneg a bydd yn ateb fel y bo’n briodol. Gellir cyfathrebu’n rhwydd â’r Gofrestrfa Tir yn y Gymraeg neu’r Saesneg dros y ffôn, yn ysgrifenedig neu’n electronig, trwy ymweliad personol a gellir cyflwyno ceisiadau ffurfiol yn y ddwy iaith. Rydym yn delio â phob ymholiad neu gais ar sail bod y ddwy iaith yn gyfartal.

Cyhoeddiadau

Cyhoeddir yr holl ddeunydd gwybodaeth ac ymgynghorol sy’n cael ei baratoi ar gyfer y cyhoedd yng Nghymru ar ffurf ddwyieithog. Mae’r holl ffurflenni cais statudol ar gael yn Gymraeg ac mae pob Cyfarwyddyd Ymarfer, Bwletin Ymarfer a Chyfarwyddyd Cyhoeddus ar gael ar ffurf ddwyieithog. Cyhoeddir copïau dwyieithog o Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon y Gofrestrfa Tir hefyd. Mae’r Eirfa o Dermau Cyfreithiol sy’n cael ei chyhoeddi gan y Gofrestrfa Tir o dan ei Chynllun Iaith Gymraeg wedi bod yn boblogaidd iawn gydag ymarferyddion a chwmnïau cyfieithu.

Cofrestri Dwy Iaith

Mae templed pob cofrestr sy’n cael ei chynhyrchu yng Nghofrestrfa Tir Swyddfa Cymru ar ffurf ddwyieithog. Mae’r penawdau a’r wybodaeth safonol yn y cofnodion ar y gofrestr yn ymddangos yn iaith y ddogfen wreiddiol maent yn deillio ohoni. Mae Cyfarwyddyd Ymarfer 58 yn manylu ar ffurf cofrestri yng Nghymru.

Ymholiadau

I gael rhagor o wybodaeth am y gwasanaethau Cymraeg, cysylltwch â Chydlynydd y Gymraeg (Eleri Sparnon Jones) ar 01792 355169 neu drwy e-bost: eleri.jones@landregistry.gsi.gov.uk

Cynllun Iaith Gymraeg

 

Cyfarwyddiadau ymarfer


Ffurflenni

Cyfarwyddiadau cyhoeddus


Ffurf cofrestri


Geirfa o dermau cyfreithiol