Yn ôl i'r hafan To English language site
Prisiau tai
Cofrestru'ch tir
E-drawsgludo
Addysg a hyfforddiant
Eich hawliau gwybodaeth
Ymarfer
Gwybodaeth am eiddo
E-wasanaethau
Y Gofrestrfa Tir Uniongyrchol
Y Gofrestr Tir Ar-lein

Y Gofrestrfa Tir Uniongyrchol

Pam y mae Uned Ryngwladol gennym

Mae’r Gofrestrfa Tir eisoes wedi chwarae rhan bwysig yn natblygiad systemau cofrestru tir ar draws y byd. Mae gweithgareddau ymgynghori ac ymweliadau â’r wlad hon gan arbenigwyr tramor wedi bod yn gyfrwng i sefydliadau cyfatebol tramor ddysgu o’n profiad hir yn y maes. Rydym ninnau wedi dysgu trwy ein cysylltiadau a’n hymweliadau â Chofrestrfeydd mewn gwledydd eraill. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf bu ymgais i ddatblygu hawliau tir a systemau trosglwyddo tir yn nemocratiaethau newydd dwyrain Ewrop a gwledydd y trydydd byd a hynny trwy gyfrwng mentrau rhyngwladol gan y Cenhedloedd Unedig, yr Undeb Ewropeaidd, Banc y Byd ac eraill.

Tan heddiw rydym wedi cyfrannu ar sail yn ôl y galw i raddau helaeth, yn ymateb i anghenion wrth iddynt godi a chroesawu ymwelwyr tramor pan fyddant yn gofyn am ein cymorth. Yn y blynyddoedd diwethaf rydym wedi chwarae rhan fwy blaenllaw a pharhaol yng ngwaith Comisiwn Economaidd i Ewrop y Cenhedloedd Unedig trwy ddarparu cyngor ymarferol am gofrestru tir yn Albania, Rwmania, Lithwania, Georgia a gwledydd eraill.

Roedd yr Adolygiad Pum Mlynedd a gyhoeddwyd yn 2002 yn tynnu sylw at waith y Gofrestrfa yn y maes rhyngwladol ac yn cydnabod ei bwysigrwydd. Argymhellodd y dylid sefydlu Uned Ryngwladol fechan yn y Brif Swyddfa i gydlynu’r gweithgareddau hyn oedd yn digwydd eisoes. Rhagwelwyd y byddai’r Uned yn datblygu’n rôl ryngwladol mewn ffordd a fyddai’n adlewyrchu’n statws byd-eang a’n cyfraniad fel un o’r arweinwyr ym maes gweithredu a datblygu systemau cofrestru tir.