Croeso i dudalen ymgyngoriadau'r Gofrestrfa Tir

Pan fyddwn yn gwneud cynigion a fydd, yn ein barn ni, yn gwneud cofrestru tir yn haws, rydym bob amser yn eu trafod mewn grwpiau defnyddwyr a fforymau eraill.

Os yw unrhyw un ohonynt yn effeithio'n sylweddol ar ymarfer neu weithdrefnau, byddwn yn cynnal ymgynghoriad ffurfiol yn unol â'r Côd Ymarfer ar Ymgyngoriadau (gwefan allanol, berr.gov.uk).

Gall unrhyw un fynegi barn yn ystod ymgynghoriad y Gofrestrfa Tir. Mae'r cyfnod trafod yn parhau am 12 wythnos fel rheol a gall y sylwadau a dderbynnir wneud gwahaniaeth. Gallwch ymateb naill ai drwy ebost neu drwy'r post.

Ymarferion ymgynghori agored

Nid oes unrhyw ymarferion ymgynghori agored ar hyn o bryd.

Ymatebion i'r ymgynghoriad

Agorodd yr ymgynghoriad i 'Cofrestru Tir a Deddf Gwasanaethau Cyfreithiol 2007' ar 6 Rhagfyr 2010 a daeth i ben ar 28 Chwefror 2011.  Dyma ein hymateb ffurfiol i'r ymgynghoriad

Adroddiad Ymatebion i'r Ymgynghoriad

Lansiwyd yr ymgynghoriad ar y cynnig i gau ein swyddfeydd yn Croydon, Peterborough, Portsmouth, Stevenage a Tunbridge Wells ar 22 Hydref 2009 a daeth i ben ar 29 Ionawr 2010.

Dyma ein hymateb ffurfiol i'r ymgynghoriad.

Adroddiad Ymatebion i'r Ymgynghoriad

Mae'r dogfennau canlynol yn cyd-fynd â'r adroddiad i'r ymatebion.

Y Ddogfen Ymgynghori

Adroddiad Penderfyniadau'r Rhaglen Trawsnewid Cyflymedig

Asesiad Effaith ar Gydraddoldeb

ac

Achos Busnes (fersiwn gwreiddiol)

Cafodd yr Achos busnes ei adolygu a'i ddiweddaru ar ôl yr ymgynghoriad.

Ymarferion ymgynghori wedi'u cwblhau ac ymarferion ymgynghori y gorffennol

Gallwch gael manylion yr ymgyngoriadau wedi'u cwblhau trwy ddilyn y cysylltau isod.

Ymgyngoriadau wedi'u cwblhau yn 2009-2010

Ymgyngoriadau wedi'u cwblhau yn 2008