Deunydd ymarfer
Mae'r Gofrestrfa Tir wedi cyhoeddi cyfres newydd o ddeunyddiau i'ch helpu i ddeall yr ymarfer a'r gweithdrefnau newydd o dan Ddeddf 2002.
Cyfarwyddiadau ymarfer - mae'r cyfarwyddiadau ymarfer yn rhoi arweiniad llawn a manwl ynghylch ceisiadau i'r Gofrestrfa Tir o dan y Ddeddf newydd. Bwriedir iddynt gael eu defnyddio'n bennaf gan gyfreithwyr, trawsgludwyr trwyddedig a chynghorwyr cyfreithiol eraill.
Cyfarwyddiadau cyhoeddus - ar gyfer pobl nad ydynt yn arbenigwyr. Maent yn trafod amrywiaeth o bynciau y gallai lleygwyr ddelio â hwy. I ryw raddau mae cynnwys y cyfarwyddiadau cyhoeddus yn gorgyffwrdd â chynnwys y cyfarwyddiadau ymarfer.
Bwletinau ymarfer - maent yn darparu'r wybodaeth ddiweddaraf am bynciau penodol megis gweithdrefnau dros dro ac eitemau newydd. Bwriedir iddynt gael eu defnyddio naill ai gan y proffesiwn cyfreithiol neu aelodau'r cyhoedd.
Ffurflenni - Ar gael ar fformat Adobe Acrobat PDF a Microsoft Word ar y wefan hon.
Noder: Mae'r deunydd hwn ar gael yn adran Ffurflenni a chyhoeddiadau y wefan hon.