Deddf Cofrestru Tir 2002

Rheolau Cofrestru Tir 2003

Gosodwyd Rheolau Cofrestru Tir 2003 (O.S. Rhif 1417) gerbron y Senedd ar 5 Mehefin 2003.

Mae'r Rheolau yn ymdrin â rhai o'r agweddau mwy technegol ar y system drawsgludo gofrestredig newydd a gyflwynwyd gan Ddeddf Cofrestru Tir 2002. Daethant i rym ar 13 Hydref 2003. Ceir nodyn esboniadol (nad yw'n rhan o'r Rheolau) ar ddiwedd y Rheolau. Mae hwn yn rhoi mwy o fanylion am y materion y mae'r Rheolau yn darparu ar eu cyfer.

Cyhoeddir y Rheolau gan y Llyfrfa. Maent ar gael yn ar-lein ac yn siopau'r Llyfrfa Cyf.

Arferir yr hawl i wneud Rheolau Cofrestru Tir gan yr Arglwydd Ganghellor a'r Ysgrifennydd Gwladol gyda chyngor a chymorth y Pwyllgor Rheolau.

Rheolau Cofrestru Tir (Newidiad) (Rhif 2) 2005

Mae newid sylweddol yn y modd y mae'r Gofrestrfa Tir yn prosesu ceisiadau i gofrestru prydlesi wedi ei gymeradwyo. Gosodwyd Rheolau Cofrestru Tir (Newidiad) (Rhif 2) 2005 gerbron y Senedd ym mis Gorffennaf ac maent yn dod i rym yn 2006.

Cyfres o fanylion safonol yw cymalau penodedig, a rhaid iddynt ymddangos ar ddechrau unrhyw brydles o ystad gofrestredig am saith mlynedd neu ragor (ceir ambell eithriad). Mae'r cymalau penodedig yn cynnwys yr holl wybodaeth sydd ei hangen ar y Gofrestrfa Tir i gwblhau cofrestriad y brydles.

Gellir cwblhau'r cymalau'n hawdd naill ai trwy nodi'r wybodaeth angenrheidiol neu trwy groesgyfeirio at rannau perthnasol y ddogfen. Bydd y newid hwn yn cyflymu ac yn symleiddio'r broses gofrestru, gan arwain at gofrestr teitl fwy cywir a chyflawn.