Rheolau Cofrestru Tir 2003 (fel y'u newidiwyd)

Dim ond effaith derfynol deddfwriaeth newid a ddangosir. Lle newidiwyd un o ddarpariaethau RhCT 2003 ac mae'r geiriad diwygiedig ei hun yn cael ei newid, dim ond effaith y ddeddfwriaeth newid ddiweddaraf a ddangosir a bydd y nodyn ar ôl y rheol dan sylw yn cyfeirio at hyn yn unig.

Defnyddir cromfachau a nodiadau eglurhaol i ddangos bod testun wedi cael ei ddileu a bod testun wedi cael ei ychwanegu neu ei ddisodli.

Credwn fod y testun yn gywir, ond dylech gyfeirio at RhCT 2003 a'r ddeddfwriaeth newid fel mae'r rhain yn ymddangos ar wefan Legislation.gov.uk i fodloni'ch hun ynghylch unrhyw faterion rydych yn bwriadu dibynnu arnynt. Mae'r ddeddfwriaeth yn ddarostyngedig i hawlfraint y Goron.