Deddf Cofrestru Tir 2002

Gorchymyn Deddf Cofrestru Tir (Darpariaethau Trosiannol) 2003

Daeth Gorchymyn Deddf Cofrestru Tir 2002 (Darpariaethau Trosiannol) 2003, (O.S. 2003 Rhif 1953), i rym ar 13 Hydref 2003. Mae'r Gorchymyn hwn yn gwneud darpariaethau trosiannol yn ychwanegol at y darpariaethau trosiannol a gaiff eu cynnwys yn Atodlen 12 i Ddeddf Cofrestru Tir 2002.

Mae'r Gorchymyn yn cynnwys darpariaethau sy'n ymdrin â

  • Ceisiadau sy'n aros i'w prosesu ar 13 Hydref 2003
  • Darpariaethau trosiannol ar gyfer rhybuddiadau a chyfyngiadau
  • Cyfnodau gras ar gyfer defnyddio hen ffurflenni
  • Cyfnodau blaenoriaeth a ddechreuodd cyn 13 Hydref 2003
  • Anghydfodau sy'n bodoli ar 13 Hydref 2003
  • Effeithiolrwydd parhaus rhai cofnodion cofrestr

Cyhoeddir y Gorchymyn gan y Llyfrfa. Mae ar gae ar lein ac yn siopau'r Llyfrfa Cyf.