Cyfunddaliad
Derbyniodd Deddf Cyfunddaliad a Diwygio Lesddaliad 2002 y Cydsyniad Brenhinol ar 1 Mai 2002
Mae cyfunddaliad yn ddull amgen i'r dull confensiynol o berchen ar fflatiau a mathau eraill o eiddo sy'n dibynnu ar ei gilydd o dan brydles. Nid yw'n ystad newydd mewn tir ond math newydd o berchnogaeth rhydd-ddaliad.
Derbyniodd Deddf Cyfunddaliad a Diwygio Lesddaliad 2002 y Cydsyniad Brenhinol ar 1 Mai 2002. Daeth Rhan I i rym ar 27 Medi 2004 ar yr un pryd â Rheoliadau Cyfunddaliad 2004, Rheolau Cyfunddaliad (Cofrestru Tir) 2004 a'r Gorchymyn Ffi (Newidiad) Cofrestru Tir 2004 hefyd. Gyda'i gilydd maent yn pennu'r gweithdrefnau ar gyfer creu, rheoli a chofrestru tir cyfunddaliol.
Manylion y ddeddfwriaeth a deunydd cefndirol
- Mae Rhan 1 Deddf Cyfunddaliad a Diwygio Lesddaliad 2002 yn pennu'r fframwaith cyfreithiol ar gyfer cyfunddaliad.
- Mae Rheoliadau 2004 yn pennu'r gofynion o ran creu a rheoli datblygiad cyfunddaliol.
- Mae Rheolau Cyfunddaliad (Cofrestru Tir) 2004 yn trafod y weithdrefn cofrestru ar gyfer tir cyfunddaliol.
- Mae Gorchymyn Ffi (Newidiad) Cofrestru Tir 2004 yn gosod y ffïoedd ar gyfer cyflwyno ceisiadau cyfunddaliad i'r Gofrestrfa Tir.
- Mae'r 'Golwg ar Gyfunddaliad' yn rhoi gwybodaeth gefndirol am gyfunddaliad.
Mae Rhan 2 o'r Ddeddf yn cael ei gweithredu ar wahân gan Swyddfa'r Dirprwy Brif Weinidog.