Cofrestr Tir Gynhwysfawr - digwyddiadau newydd sy'n peri cofrestriad

Bydd dau ddigwyddiad newydd yn cael eu hychwanegu at y rhestr o drafodion sy’n peri cofrestriad cyntaf gorfodol teitl pan ddaw Gorchymyn Deddf Cofrestru Tir 2002 (Newidiad) 2008 i rym ar 6 Ebrill 2009.

Y rhain yw:

Gwnaed y Gorchymyn yn dilyn ymgynghoriad a gynhaliwyd gan y Gofrestrfa Tir, ar ran yr Arglwydd Ganghellor, rhwng Tachwedd 2007 a Chwefror 2008.

Bydd ychwanegu’r rhain, ynghyd â’n polisi o annog a hwyluso cofrestriad cyntaf gwirfoddol, yn helpu’r Gofrestrfa Tir i gyflawni’n hamcan strategol tymor hir o greu cofrestr tir gynhwysfawr ar gyfer Cymru a Lloegr. Mae creu cofrestr tir gynhwysfawr yn bwysig gan y bydd yn rhoi i bob perchennog tir cofrestredig y warchodaeth gyfreithiol orau sydd ar gael, ynghyd â mynediad i wybodaeth dda am deitl i brynwyr, a bydd yn hwyluso prynu a gwerthu i bawb.

Mae manylion y newidiadau sy’n deillio o’r Gorchymyn ynghyd â deunydd cefndirol am yr ymgynghoriad i’w gweld yma.

Gallwch gael crynodeb o gwestiynau a ofynnir yn aml yma.

Gallwch gael Cyngor i ymddiriedolwyr sy'n gwneud cais am gofrestriad cyntaf yma. Mae hyn yn cynnwys taflen eglurhaol, rhestr wirio, enghreifftiau o ffurflenni ac esiampl o gofrestr a chynllun teitl.