Cyngor i ymddiriedolwyr sy’n gwneud cais am gofrestriad cyntaf

Daeth deddfwriaeth newydd i rym ar 6 Ebrill 2009 a fydd yn effeithio ar sefydliadau sy'n berchen ar dir digofrestredig yn enw'r ymddiriedolwyr.

Os ydych yn berchen ar dir digofrestredig, effaith y ddeddfwriaeth hon yw bod yn rhaid i chi wneud cais i'r Gofrestrfa Tir i gofrestru'r tir pan fo'n breinio mewn ymddiriedolwr newydd trwy:

- weithred benodi ymddiriedolwr newydd neu weithred a wnaed o ganlyniad i benodi ymddiriedolwr newydd 
- memorandwm wedi'i gyflawni fel gweithred sy'n tystio penodiad ymddiriedolwr ac y mae adran 83 o Ddeddf Elusennau 1993 yn berthnasol iddo
- breinio'r llys a wnaed o dan adran 44 o Ddeddf Ymddiriedolwyr 1925 o ganlyniad i benodi ymddiriedolwr newydd.

Yn ogystal, rhaid gwneud cais am gofrestriad cyntaf lle bo tir digofrestredig, sy'n cael ei ddal ar ymddiried, yn cael ei rannu rhwng buddiolwyr yr ymddiried.

Os yw'r cais yn ymwneud ag ystad fawr neu'n cynnwys nifer o barseli o dir a fyddai'n golygu y byddai'n rhaid ei gyflwyno mewn mwy nag un o swyddfeydd y Gofrestrfa Tir, a wnewch chi gysylltu â Rheolwr Datblygu'r Gofrestr yn un o'n swyddfeydd lleol cyn gynted â phosibl. Bydd modd inni ystyried agweddau trefniadol sy'n benodol i'ch ystad a chynghori ar ddull addas o baratoi a chyflwyno'ch cais yn llwyddiannus.

Mae gwybodaeth bellach ar gael trwy ddilyn y cysylltau isod:

· Nodiadau eglurhaol i ymddiriedolwyr

· Rhestr wirio ar gyfer cofrestriadau cyntaf a gyflwynir gan ymddiriedolwyr

· Enghraifft o ffurflen FR1

· Enghraifft o ffurflen DL

· Enghraifft o ffurflen ID1

· Enghraifft o gofrestr

· Enghraifft o gynllun teitl