Gorchymyn Deddf Cofrestru Tir 2002 (Newidiad) 2008

Mae’r offeryn statudol hwn yn dod i rym ar 6 Ebrill 2009 ac mae’n ychwanegu dau ddigwyddiad newydd at y rhai sy’n peri cofrestriad cyntaf gorfodol teitl i dir dan adran 4 o Ddeddf Cofrestru Tir 2002. Yn ogystal, mae’n gwneud newid canlyniadol i adran 7 y Ddeddf mewn perthynas ag un o’r digwyddiadau.

Cyhoeddwyd dogfen ymgynghorol ar y gofrestr tir gynhwysfawr ym mis Tachwedd 2007. Darllenwch yr Adroddiad ar yr ymgynghoriad i gael manylion yr atebion i’r ddogfen hon.

Am fanylion pellach yr Asesiad Effaith, gweler y ddogfen Asesiad Effaith.

Mae Gorchymyn Deddf Cofrestru Tir 2002 (Newidiad) 2008 i’w weld ar wefan Swyddfa Gwybodaeth y Sector Cyhoeddus.

I gael manylion y Memorandwm Esboniadol, gweler y Memorandwm Esboniadol i Orchymyn Deddf Cofrestru Tir 2002 (Newidiad) 2008.

Am wybodaeth ynghylch y newidiadau i adrannau 4 a 7 y Ddeddf, darllenwch fersiynau cyfunol anffurfiol adrannau 4 a 7 o Ddeddf Cofrestru Tir 2002 sy’n dangos y newidiadau a wneir gan Orchymyn Deddf Cofrestru Tir 2002 (Newidiad) 2008.

I gael gwybodaeth bellach cysylltwch â ni yn:
comprehensive.register@landregistry.gsi.gov.uk