Yn ôl i'r hafan To English language site
Prisiau tai
Cofrestru'ch tir
E-drawsgludo
Addysg a hyfforddiant
Eich hawliau gwybodaeth
Ymarfer
Gwybodaeth am eiddo
E-wasanaethau
E-wasanaethau busnes
Chwilio am eiddo
E-lofnod morgais
Y Gofrestrfa Tir Uniongyrchol
Go to Add Value Services
Go to Information Charter
Go to Publication schemes

llun o gaeau
 

Ar 13 Hydref 2003 daeth Deddf Cofrestru Tir 2002 a Rheolau Cofrestru Tir 2003 i rym. Maent wedi disodli'r gyfraith o ran cofrestru tir yn gyfan gwbl. Gyda'i gilydd, mae'r Ddeddf a'r Rheolau newydd yn rheoli rôl ac ymarfer y Gofrestrfa Tir.

Mae Deddf Cofrestru Tir 2002 yn cyflawni'r canlynol:

  • mae'n symleiddio ac yn moderneiddio'r gyfraith o ran cofrestru tir a dyma'r tro cyntaf i'r system gofrestru tir gael ei diwygio'n sylweddol ers 75 o flynyddoedd
  • mae'r gofrestr yn rhoi darlun mwy cyflawn o deitlau i dir - gan ddangos yr hawliau a'r buddion sy'n effeithio ar y teitl hwnnw yn llawnach
  • mae'n fframwaith ar gyfer datblygu system drawsgludo electronig.

Mae newidiadau mawr i'r gyfraith ac ymarfer bellach yn effeithio ar bawb sy'n ymwneud â thir cofrestredig. Yn arbennig:

  • mae'n rhaid cofrestru prydlesi byrrach bellach
  • mae cofrestru gwirfoddol ar gael ar gyfer mathau newydd o fuddion mewn tir
  • mae'r newidiadau yn effeithio ar ddiogelwch buddion y trydydd person
  • mae'r gyfraith o ran meddiant gwrthgefn (hawliau sgwatwyr) wedi cael ei diwygio

Er mwyn eich helpu i ddefnyddio'r Ddeddf, mae'r Gofrestrfa Tir wedi cyhoeddi cyfarwyddiadau ymarfer newydd sydd ar gael ar y wefan hon.


Mae gennym fodiwlau ar-lein hefyd sy'n amlinellu sut i lunio cyfyngiadau yn Ffurf L a Ffurf NN.

Bydd gweithredu Rheolau Cofrestru Tir (Newidiad) 2008 ar 10 Tachwedd 2008 yn arwain at newidiadau ar gyfer ymarfer y Gofrestrfa Tir.

Y newidiadau mwyaf arwyddocaol yw cyflwyno gwiriadau hunaniaeth, newidiadau i ffurflenni'r Gofrestrfa Tir a newidiadau i Atodlen 4 Rheolau Cofrestru Tir 2003.

Rhagor o wybodaeth

Dilynwch y cyswllt i weld fersiwn o Reolau Cofrestru Tir 2003 sy'n dangos effaith derfynol deddfwriaeth newid hyd at ac yn cynnwys Rheolau Cofrestru Tir (Newidiad) 2008.

Ar 1 Hydref 2009 bydd Rheolau Cofrestru Tir (Newidiad) 2009 yn cyflwyno newidiadau sy'n effeithio ar gofrestru arwystlon a grewyd gan gwmnïau tramor, cyflawniad gan bartneriaethau atebolrwydd cyfyngedig a chyfeiriadau at rifau cofrestru cwmnïau mewn ffurflenni a chymalau penodedig ar gyfer prydlesi. Hefyd ar 1 Hydref 2009, daw paragraff 40 o Atodiad 1 i Reolau Cofrestru Tir (Newidiad) 2008 i rym. Mae'n disodli rheol 111 newydd Rheolau Cofrestru Tir 2003 er mwyn ystyried darpariaethau'r Ddeddf Cwmnïau 2006 a ddaw i rym bryd hynny hefyd.
Rhagor o wybodaeth
Dilynwch y cyswllt i fersiwn o Reolau Cofrestru Tir 2003 sy'n dangos effaith derfynol deddfwriaeth newid hyd at ac yn cynnwys Rheolau Cofrestru Tir (Newidiad) 2009.