Yn ôl i'r hafan I'r wefan Saesneg
Prisiau tai
Cofrestrwch eich tir
E-drawsgludo
Addysg a hyfforddiant
Eich hawliau gwybodaeth
Ymarfer
Gwybodaeth am eiddo
E-wasanaethau
E-wasanaethau busnes
Chwilio am eiddo
E-lofnod morgais
Y Gofrestrfa Tir Uniongyrchol
Ewch i Gwasanaethau Add Value
Ewch i Siarter gwybodaeth
Ewch i Cynlluiau cyhoeddiadau

Newidiadau i Reolau Cofrestru Tir 2003

Rheolau Cofrestru Tir (Newidiad) 2008
Rheolau Cydradd-ddaliad (Cofrestru Tir) (Newidiad) 2008
Gorchymyn Cofrestru Tir (Swyddfa Briodol) (Newidiad) 2008

Daeth yr holl offerynnau statudol hyn i rym ar 10 Tachwedd 2008, ac eithrio'r ddarpariaeth yn Rheolau Cofrestru Tir (Newidiad) 2008 y cyfeirir ati isod.


Mae Rheolau Cofrestru Tir (Newidiad) 2008 (“rheolau’r newidiad”) yn newid eto Rheolau Cofrestru Tir 2003 (“y prif reolau”), sy'n gwneud darpariaeth fanwl ar gyfer cofrestru tir yng Nghymru a Lloegr. Mae'r newidiadau’n amrywiol ac maent yn dilyn adolygiad cyffredinol o'r prif reolau a gynhaliwyd gan y Gofrestrfa Tir.


Mae Rheolau Cydradd-ddaliad (Cofrestru Tir) (Newidiad) 2008 (“rheolau cydradd-ddaliad y newidiad”) yn newid Rheolau Cydradd-ddaliad (Cofrestru Tir) 2004 er mwyn adlewyrchu’r newid i ffurflen arbennig a bennwyd gan y prif reolau ac a newidiwyd gan reolau’r newidiad, ac i ddarparu ar gyfer defnyddio “datganiadau o wirionedd” yn lle datganiadau statudol (ceir darpariaethau tebyg yn rheolau’r newidiad).


Mae Gorchymyn Cofrestru Tir (Swyddfa Briodol) (Newidiad) 2008 (“gorchymyn swyddfa briodol y newidiad”) yn newid Gorchymyn Cofrestru Tir (Swyddfa Briodol) 2007 fel bod diffiniad “trawsgludwr” yng Ngorchymyn Cofrestru Tir (Swyddfa Briodol) 2007 yn gyson â’r diffiniad yn y prif reolau fel y’u newidiwyd gan reolau’r newidiad.

Amserlen gweithredu

  • Gorffennaf 2008 – Gwnaed y rheolau a’r gorchymyn a’u gosod gerbron y Senedd
  • Erbyn 18 Awst 2008 – Roedd fersiwn cyfunol o’r prif reolau yn dangos y newidiadau a wnaed gan reolau’r newidiad (gan gynnwys y ffurflenni penodedig) ar gael ar ein gwefan, ynghyd â'r llyfryn i gwsmeriaid, Gweithredwch sy'n cynnwys manylion y prif newidiadau.
  • Diwedd Medi 2008 - Darparwy copïau o Gweithredwch i ddeiliaid cyfrif y Gofrestrfa Tir a dechreuodd y Gofrestrfa Tir gyhoeddi cyfarwyddiadau ymarfer a chyfarwyddiadau cyhoeddus diwygiedig.
  • 10 Tachwedd 2008 – Daeth y rheolau a’r gorchymyn i rym, heblaw darpariaeth yn rheolau’r newidiad, sy’n ymwneud â thystysgrifau cofrestru arwystlon cwmni, fydd yn dod i rym yr un pryd ag adran benodol o Ddeddf Cwmnïau 2006.

Sylwer, yn achos ceisiadau lle mae’n rhaid defnyddio ffurflenni  AP1, DS2 ac FR1, a dderbynnir ar neu ar ôl 10 Tachwedd, bydd rhaid defnyddio’r ffurflen fel y’i newidiwyd gan reolau’r newidiad. Gellir defnyddio’r fersiwn heb ei newid ar gyfer yr holl ffurflenni eraill (a) yn ystod cyfnod trosiannol tri mis hyd 9 Chwefror 2009 neu (b) os yw’n benodol ofynnol ei ddefnyddio yn ôl cytundeb yr ymrwymwyd iddo o leiaf tri mis cyn 10 Tachwedd, gan orchymyn llys neu drwy neu dan ddeddfiad.

Cyhoeddwyd dogfen ymgynghorol Adolygiad o Reolau Cofrestru Tir 2003 yn Hydref 2007.

I weld adroddiad ar yr ymatebion i’r ddogfen ymgynghorol, ewch i Adroddiad ar yr Ymgynghoriad.

I gael manylion yr Asesiad ar Effaith, dilynwch y cyswllt canlynol: Asesiad ar Effaith.

Ewch i wefan Swyddfa Gwybodaeth y Sector Cyhoeddus (OPSI) i weld y canlynol:

I weld fersiwyn cyfunol o'r prif reolau diwygiedig, ewch i Reolau Cofrestru Tir 2003 (cyfunol). Mae'r fersiwn hwn yn dangos effaith rheolau'r newidiad trwy destun â llinell trwyddo a defnyddio teip coch.

I gael manylion y newidiadau pwysicaf i'r prif reolau, darllenwch y llyfryn Gweithredwch. Mae hwn ar gael i'w lwytho i lawr fell ffeil ansawdd argraffu (12Mb) neu  ffeil ansawdd gwe (4Mb).

Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar ein tudalen Cwestiynau a ofynnir yn aml.