Back to home page To Welsh language site
Prisiau tai
Cofrestru'ch tir
e-drawsgludo
Addysg a hyfforddiant
Eich hawliau gwybodaeth
Practice
Gwybodaeth am eiddo
E-wasanaethau
Land Registry Direct
Find a property

Rheolau Cofrestru Tir (Newidiad) 2008 - cwestiynau a ofynnir yn aml

Frequently asked questions
Cwestiynau cyffredinol

Beth yw'r prif newidiadau a gyflwynwyd gan Reolau Cofrestru Tir (Newidiad) 2008?

Pryd daeth y rheolau i rym?

Ydych chi'n cynnig hyfforddiant i ymarferyddion?

Sut mae cael copïau o'r cyfarwyddiadau ymarfer?


Cwestiynau sy'n ymwneud â ffurflenni

Oes cyfnod trosiannol ar gyfer ffurflenni?

Beth fydd yn digwydd os byddaf yn defnyddio fersiwn cyfredol o ffurflen AP1, FR1 neu DS2 ar neu ar ôl 10 Tachwedd 2008?

Beth fydd yn digwydd os byddaf yn defnyddio fersiwn cyfredol o unrhyw ffurflen arall ar neu ar ôl 9 Chwefror 2009?

Oes unrhyw ffurflenni newydd?

Ble mae cael copïau o'r ffurflenni newydd/diwygiedig?


Cwestiynau sy'n ymwneud â chyfyngiadau

Sut mae'r cyfyngiadau safonol wedi newid?

Oes unrhyw gyfyngiadau newydd?

Sut mae cael rhagor o wybodaeth am y newidiadau i'r cyfyngiadau safonol?


Cwestiynau sy'n ymwneud â chadarnhau hunaniaeth

Pryd bydd angen i mi gadarnhau hunaniaeth wrth gyflwyno cais?

Beth fydd yn digwydd os na fyddaf yn darparu'r wybodaeth ofynnol?

Pam cyflwyno'r newidiadau hyn?

Pa opsiwn ym mhanel 12 (AP1) y dylai rhoddwr benthyg ar y stryd fawr ei ddefnyddio?

Trawsgludwr ydw i sy'n cyflwyno ceisiadau ar ran rhoddwr benthyg ar y stryd fawr. Oes angen ffurflenni cadarnhau hunaniaeth ar gyfer y rhoddwr benthyg?

Mae panel 13(2) yn ffurflen AP1 yn cyfeirio at y trawsgludwr yn cymryd 'camau digonol' i gadarnhau hunaniaeth partïon heb gynrychiolaeth. A wnewch chi gadarnhau beth sy'n cyfrif fel 'camau digonol'? Mae un o'n cleientiaid yn fanc ar y stryd fawr sy'n cynnal ei wiriadau ei hun yn erbyn gwyngalchu arian. Os ydyn ni'n fodlon ei fod wedi cynnal ei wiriadau gwyngalchu arian, oes modd i ni ddibynnu ar hyn a chadarnhau bod 'camau digonol' wedi cael eu cymryd?

Mae'r ail ddatganiad ym mhanel 13(2) AP1 yn rhoi cyfle i drawsgludwr amgáu tystiolaeth o hunaniaeth. A wnewch chi gadarnhau beth sy'n cyfrif fel tystiolaeth o hunaniaeth at ddiben y panel hwn. Er enghraifft, a fyddai copi ardystiedig o basbort yn dderbyniol, neu a fyddai disgwyl i ni gadarnhau mai'r un person yw deiliad y pasbort â'r sawl sy'n cyflawni'r trosglwyddiad, prydles neu arwystl?

Dylid defnyddio panel 14 lle bo'r cais yn cael ei anfon at y Gofrestrfa Tir gan rywun nad yw'n drawsgludwr. Mae panel 14(1) yn gofyn am fanylion y trawsgludwr sy'n gweithredu. Gan fod y cais yn cael ei anfon gan rywun nad yw'n drawsgludwr, at ba drawsgludwr mae hyn yn cyfeirio?

Sut mae cael rhagor o wybodaeth am gadarnhau hunaniaeth?


Cwestiynau sy'n ymwneud â datganiadau o wirionedd

Pam cyflwyno datganiadau o wirionedd?

Oes rhaid i mi ddefnyddio'r ffurflenni datganiad o wirionedd newydd?


Cwestiynau cyffredinol

Beth yw'r prif newidiadau a gyflwynwyd gan Reolau Cofrestru Tir (Newidiad) 2008?
Mae'r prif newidiadau'n cynnwys:

  • newid holl ffurflenni Atodlen 1
  • newid geiriad y rhan fwyaf o'r cyfyngiadau safonol a chyflwyno pedwar cyfyngiad newydd
  • cynnwys paneli cadarnhau hunaniaeth yn ffurflenni cais AP1, FR1 a DS2 a chyflwyno'r gofyniad, dan rai amgylchiadau, i ddarparu cadarnhad o ran partïon heb gynrychiolaeth
  • cyflwyno datganiadau o wirionedd yn lle datganiad statudol.

Ceir nifer o newidiadau eraill ac rydym wedi cyhoeddi dogfennau i'ch helpu i addasu. Gellir eu darllen a'u llwytho i lawr o'r wefan hon.

Pryd daeth y rheolau i rym?
Daeth y rheolau i rym ar 10 Tachwedd 2008.

Ydych chi'n cynnig hyfforddiant i ymarferyddion?
Mae llyfryn gweithredu, wedi'i gyhoeddi gan Adran Addysg a Hyfforddiant y Gofrestrfa Tir, ar gael o'r wefan hon.

Sut mae cael copïau o'r cyfarwyddiadau ymarfer?
Mae argraffiadau newydd o'r rhan fwyaf o'n cyfarwyddiadau ymarfer (dyddiedig Tachwedd 2008) wedi cael eu paratoi o ganlyniad i'r newidiadau i'r rheolau. Mae'r rhain ar gael i'w darllen neu eu llwytho i lawr o'r wefan hon.


Cwestiynau sy'n ymwneud â ffurflenni

Oes cyfnod trosiannol ar gyfer ffurflenni?
Nid oes unrhyw gyfnod trosiannol ar gyfer ffurflenni AP1, FR1 a DS2 a bydd rhaid defnyddio'r fersiynau newydd ar gyfer ceisiadau a gyflwynir i'r Gofrestrfa Tir ar neu ar ôl 10 Tachwedd 2008. Gellir defnyddio'r fersiynau presennol o'r ffurflenni cais eraill hyd 9 Chwefror 2009.

Beth fydd yn digwydd os byddaf yn defnyddio hen fersiwn ffurflen AP1, FR1 neu DS2 ar neu ar ôl 10 Tachwedd 2008?
Byddwn yn gwrthod eich cais.

Beth fydd yn digwydd os byddaf yn defnyddio hen fersiwn unrhyw ffurflen arall ar neu ar ôl 9 Chwefror 2009?
Byddwn yn gwrthod eich cais oni bai i chi ddangos bod defnydd o'r ffurflen yn ofynnol yn benodol yn ôl cytundeb yr ymrwymwyd iddo cyn 10 Awst 2008, trwy orchymyn y llys neu drwy neu dan ddeddfiad (mae hyn yn golygu bod rhaid i'r ddeddf y dibynnir arni bennu defnydd y ffurflen ei hun, nid nodi'r trafodiad cysylltiedig yn unig.)

Oes unrhyw ffurflenni newydd?
Ceir ffurflenni newydd ar gyfer y canlynol:

  • hollti cyd-denantiaeth: cyflwynwyd ffurflen SEV newydd a gellir ei defnyddio i wneud cais am gyfyngiad Ffurf A yn achos hollti cyd-denantiaeth mewn ecwiti trwy gytundeb neu rybudd. Ar gyfer y math hwn o gais, mae'n darparu dull cyfleus arall yn lle ffurflen RX1 dan y rhan fwyaf o amgylchiadau
  • dileu rhybudd o hawliau cartref: nid oedd RhCT 2003 yn pennu ffurflen gais i ddileu rhybudd o hawliau cartref. Ein harfer oedd argymell defnyddio ffurflen HR4 ond nid oedd hyn yn orfodol ac roedd rhaid cyflwyno ffurflen AP1 ar yr un pryd. Erbyn hyn rydym wedi gwneud ffurflen HR4 yn ffurflen benodedig dan Atodlen 1 Rheolau Cofrestru Tir 2003, a bydd hyn yn hwyluso'r broses o wneud cais i ddileu rhybudd o hawliau cartref gan ddileu'r angen am ffurflen AP1
  • datganiadau o wirionedd (gweler isod).

Ble mae cael copïau o'r ffurflenni newydd/diwygiedig?
Mae'r ffurflenni newydd/diwygiedig ar gael i'w gweld neu eu llwytho i lawr o'r wefan hon.


Cwestiynau sy'n ymwneud â chyfyngiadau

Sut mae'r cyfyngiadau safonol wedi newid?
Rydym wedi newid geiriad, atalnodi a ffurf y cyfyngiadau safonol presennol gan safoni'r defnydd o lythrennau italig a chromfachau er mwyn eu gwneud yn fwy clir. Rydym hefyd wedi cynnwys iaith sy'n niwtral o ran rhyw.

Oes unrhyw gyfyngiadau newydd?
Oes. Rydym wedi cyflwyno'r ffurfiau cyfyngiad safonol newydd canlynol.

  • MM (Budd mewn cyd-denantiaeth lesiannol yn amodol ar arwystl dan adran 22(1) o Ddeddf Dyfarniadau Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a Nawdd Cymdeithasol 1983).
  • NN (Gwarediad gan berchennog cofrestredig ystad gofrestredig neu berchennog arwystl - caniatâd neu dystysgrif yn ofynnol).
  • OO (Gwarediad gan berchennog arwystl - caniatâd neu dystysgrif yn ofynnol).
  • PP (Gwarediad gan berchennog cofrestredig ystad gofrestredig neu berchennog arwystl - tystysgrif landlord ac ati, neu drawsgludwr yn ofynnol).

Sut mae cael rhagor o wybodaeth am y newidiadau i'r cyfyngiadau safonol?
Mae Cyfarwyddyd Ymarfer 19 diwygiedig 19 - Rhybuddion, cyfyngiadau a gwarchod buddion trydydd parti yn y gofrestr, ar gael i'w ddarllen ar y wefan hon.

Cwestiynau sy'n ymwneud â chadarnhau hunaniaeth

Pryd bydd rhaid i mi gadarnhau hunaniaeth wrth gyflwyno cais?
Newidiwyd ffurflenni AP1, DS2 ac FR1 gan Reolau Cofrestru Tir (Newidiad) 2008 i gynnwys paneli 'cadarnhau hunaniaeth'. Rhaid llenwi'r paneli hyn (a chyflwyno tystiolaeth o hunaniaeth pan fo'n ofynnol) pan fyddwch yn gwneud cais i gofrestru un o'r trafodion canlynol ar neu ar ôl 10 Tachwedd 2008 ac mae gwir werth y tir yn fwy na £5,000.

  • Trosglwyddiadau (am werth neu beidio).
  • Trosglwyddiadau a gweithredoedd sy'n ymwneud â phenodiad ac ymddeoliad ymddiriedolwyr.
  • Prydlesi (am werth neu beidio).
  • Arwystlon i'w cofrestru.
  • Ildio prydlesi.
  • Gollyngiad ar ffurflen bapur DS1.
  • Rhyddhad ar ffurflen DS3.
  • Ceisiadau am gofrestriad cyntaf gorfodol lle bo'r weithred sy'n peri cofrestriad yn ddyddiedig ar neu ar ôl 10 Tachwedd.

Yn ogystal, rhaid llenwi'r paneli gyda'r rhan fwyaf o geisiadau am gofrestriad cyntaf lle collwyd neu lle dinistriwyd y gweithredoedd teitl.
Os yw unrhyw barti heb gynrychiolaeth, rhaid i chi naill ai gadarnhau eich bod yn fodlon ynghylch ei hunaniaeth neu amgáu tystiolaeth yn ffurflen ID1 neu ID2.

Beth fydd yn digwydd os na fyddaf yn darparu'r wybodaeth ofynnol?
Bydd y Gofrestrfa Tir yn gwrthod pob cais lle nad yw'r paneli wedi'u llenwi neu os nad yw tystiolaeth o hunaniaeth yn cael ei chyflwyno lle bo'n ofynnol.

Pam cyflwyno'r newidiadau hyn?
Rydym wedi cyflwyno'r newidiadau i atgoffa pobl bod y Gofrestrfa Tir, wrth gofrestru trosglwyddiadau, gollyngiadau, arwystlon, prydlesi a gwarediadau tir eraill, yn dibynnu ar y camau mae trawsgludwyr yn eu cymryd, lle bo'n briodol, i gadarnhau hunaniaeth eu cleientiaid, a bod y gwiriadau hyn yn lleihau'r perygl o dwyll eiddo.
Nid ydym yn ceisio trosglwyddo'r cyfrifoldeb am dwyll hunaniaeth neu indemniad i'r trawsgludwr. Rydym eisoes yn dibynnu ar drawsgludwyr i gymryd gofal priodol i wirio hunaniaeth; bwriad y newidiadau arfaethedig yw eu hatgoffau o hyn a bod uniondeb y system dan fygythiad gan dwyll hunaniaeth.

Pa opsiwn ym mhanel 12 (AP1) y dylai rhoddwr benthyg ar y stryd fawr ei ddefnyddio?
Os yw cais yn cael ei gyflwyno'n uniongyrchol gan fanc, byddwn yn cymryd yn ganiataol ei fod wedi cael ei gyflwyno gan drawsgludwr. Dylai'r banc lenwi'r blwch cyntaf, hynny yw, nodi ei fod yn 'drawsgludwr at ddiben llenwi'r ffurflen'. Os nad yw'n fodlon gwneud hynny, bydd rhaid iddo lenwi'r ail flwch ac yna llenwi panel 14 (AP1).

Trawsgludwr ydw i sy'n cyflwyno ceisiadau ar ran rhoddwr benthyg ar y stryd fawr. Oes angen ffurflenni ID ar gyfer y rhoddwr benthyg?
Man gan lawer o roddwyr benthyg drawsgludwyr ar eu staff ac os ydych yn delio â thrawsgludwr sy'n aelod o staff rhoddwr benthyg, dylech ychwanegu eu manylion at ran (1) panel 13 ffurflen AP1.
Os nad yw'r rhoddwr benthyg yn gweithredu trwy ei drawsgludwr ei hun, neu os nad yw'n cael ei gynrychioli gan drawsgludwr annibynnol, dylech ofyn i'ch hun: "Ydw i'n hyderus fy mod mewn gwirionedd yn delio â'r rhoddwr benthyg?" Os ydych, dylech allu llenwi'r opsiwn cyntaf ym mhanel 13(2), hynny yw, eich bod yn fodlon y cymerwyd camau digonol i wirio hunaniaeth y rhoddwr benthyg. Os nad ydych yn fodlon llenwi'r opsiwn hwn, dylech ofyn i'r rhoddwr benthyg ddarparu tystiolaeth o hunaniaeth yn ffurflen ID2.

Mae panel 13(2) yn ffurflen AP1 yn cyfeirio at drawsgludwr yn cymryd 'camau digonol' i wirio hunaniaeth partïon heb gynrychiolaeth. A wnewch chi gadarnhau beth sy'n cyfrif fel 'camau digonol'. Mae un o'n cleientiaid yn fanc ar y stryd fawr sy'n cynnal ei wiriadau gwyngalchu arian ei hun. Os ydyn ni'n fodlon ei fod wedi gwneud ei wiriadau gwyngalchu arian, oes modd i ni ddibynnu ar hyn a chadarnhau bod 'camau digonol' wedi cael eu cymryd?
Ni allwn roi cyngor am hyn. Cyfrifoldeb y banc yw bodloni ei hun ynghylch hunaniaeth ei gwsmer. Os yw'n fodlon bod ei wiriadau gwyngalchu arian yn ddigonol i'r diben hwn, dylai ystyried llenwi'r opsiwn cyntaf ym mhanel 13(2).

Mae'r ail ddatganiad ym mhanel 13(2) AP1 yn rhoi cyfle i drawsgludwr amgáu tystiolaeth o hunaniaeth. A wnewch chi gadarnhau beth sy'n cyfrif fel tystiolaeth o hunaniaeth at ddiben y panel hwn? Er enghraifft, a fyddai copi ardystiedig o basbort yn dderbyniol, neu a fyddai disgwyl i ni gadarnhau mai'r un person yw deiliad y pasbort â'r sawl sy'n cyflawni'r trosglwyddiad, prydles neu arwystl?
Rhaid i'r dystiolaeth fod yn ffurflen ID1 neu ID2 bob amser.

Dylid defnyddio panel 14 lle bo'r cais yn cael ei anfon at y Gofrestrfa Tir gan rywun nad yw'n drawsgludwr. Mae panel 14(1) yn gofyn am fanylion y trawsgludwr sy'n gweithredu. Gan fod y cais yn cael ei anfon gan rywun nad yw'n drawsgludwr, at ba drawsgludwr mae hyn yn cyfeirio?
Gall hyn fod yn berthnasol, er enghraifft, mewn sefyllfa lle mae prynwr heb gynrychiolaeth gyfreithiol yn cyflwyno cais ond mae cynrychiolaeth gan y gwerthwr. Yn y sefyllfa hon, trawsgludwr y gwerthwr ddylai gael ei enwi ym mhanel 14(1).

Sut mae cael rhagor o wybodaeth am gadarnhau hunaniaeth?
Mae gennym ddau gyfarwyddyd sy'n esbonio pryd a sut y dylid llenwi'r paneli. Os ydych yn drawsgludwr, gweler Cyfarwyddyd Ymarfer 67 - Tystiolaeth o hunaniaeth - trawsgludwyr; Os nad ydych yn drawsgludwr, gweler Cyfarwyddyd Cyhoeddus 20 - Tystiolaeth o hunaniaeth - i bobl nad ydynt yn drawsgludwyr.


Cwestiynau sy'n ymwneud â datganiadau o wirionedd

Pam cyflwyno datganiadau o wirionedd?
Mae cyflwyno datganiadau o wirionedd yn dilyn y cynsail a osodwyd gan y llysoedd trwy dderbyn y dogfennau hyn fel tystiolaeth yn lle datganiadau statudol ac affidafidon. Bydd eu defnyddio yn fanteisiol i gwsmeriaid ac i ni trwy ei gwneud yn haws ac yn rhatach i ddarparu'r dystiolaeth ategol sydd ei hangen arnom ar adegau.
Cyflwynwyd ffurflenni newydd, ST1, ST2, ST3 ac ST4 ac fe'u dyluniwyd i gwmpasu'r rhan fwyaf o amgylchiadau lle defnyddir datganiadau statudol ar hyn o bryd.

Oes rhaid i mi ddefnyddio'r ffurflenni datganiad o wirionedd newydd?
Nid yw'n orfodol defnyddio'r ffurflenni hyn.