Back to home page To Welsh language site
Prisiau tai
Cofrestru'ch tir
e-drawsgludo
Addysg a hyfforddiant
Eich hawliau gwybodaeth
Practice
Gwybodaeth am eiddo
E-wasanaethau
Land Registry Direct
Find a property

Newidiadau i'r Rheolau Cofrestru Tir

Mae cyfres o newidiadau i Reolau Cofrestru Tir 2003 wedi arwain at nifer o ddatblygiadau gan gynnwys ffurflenni cofrestru tir newydd, datganiadau o wirionedd a mwy o hyblygrwydd gyda chyfyngiadau safonol.

Mae'r newidiadau'n deillio o adolygiad a gynhaliwyd gan y Gofrestrfa Tir ac ymgynghoriad â chwmseriaid rhwng Hydref 2007 a Ionawr 2008.

Ein hamcan wrth gynnal yr adolygiad oedd lleihau'r baich gweinyddol ar gwsmeriaid, lleihau'r pergyl o dwyll, gwella effeithlonrwydd gweithredol ac eglurhau rheolau lle nad oedd eu bwriad gwreiddiol wedi cael ei gyflawni neu a oedd yn agored i'w dehongli.

Credwn fod amcanion yr adolgyiad wedi'u cyflawni, diolch i raddau helaeth i ymateb ein cwsmeriaid a'n gwaith gyda phartneriaid fel Cymdeithas y Cyfreithwyr.

O ganlyniad daeth y darpariaethau statudol canlynol i rym ar ddydd Llun 10 Tachwedd 2008

  • Rheolau Cofrestru Tir (Newidiad) 2008
  • Rheolau Cydradd-ddaliad (Cofrestru Tir) (Newidiad) 2008
  • Gorchymyn Cofrestru Tir (Swyddfa Briodol) (Newidiad) 2008.

Ewch i'r dudalen hon i weld manylion y newidiadau sy'n deillio o'r darpariaethau hyn, ynghyd â gwybodaeth gefndirol ar yr adolygiad a'r ymgynghoriad, crynodeb o gwestiynau a ofynnir yn aml (mae fersiwn Cymraeg yn cael ei baratoi) a chopi o'r llyfryn gweithredu. Gallwch weld ein ffurflenni a'n cyfarwyddiadau ymarfer dywgiedig hefyd.