Rheolau Cofrestru Tir (Newidiad) 2009 Rheolau Cydradd-ddaliad (Cofrestru Tir) (Newidiad) 2009 Gorchymyn Cofrestru Tir (Swyddfa Briodol) 2009 Gorchymyn Cofrestru Tir (Swyddfa Briodol) (Rhif 2) 2009
Daeth y darpariaethau statudol canlynol i rym ar 1 Hydref 2009.
Mae'r Rheolau Cofrestru Tir (Newidiad) 2009 yn newid y Rheolau Cofrestru Tir 2003 ymhellach, sy'n gwneud darpariaeth fanwl ar gyfer cofrestru tir yng Nghymru a Lloegr. Bydd y newidiadau: - yn sicrhau darpariaeth mewn perthynas â chofrestru arwystlon gan gwmnïau tramor,
- darparu ffurf ychwanegol o gyflawni drwy bartneriaethau atebolrwydd cyfyngedig, a
- newid y cyfeiriadau at "rhif cofrestredig yng Nghymru a Lloegr" cwmni tramor i "rhif cofrestredig yn y Deyrnas Unedig" mewn ffurflenni a chymalau penodedig ar gyfer prydlesi.
Mae'r Rheolau Cydradd-ddaliad (Cofrestru Tir) (Newidiad) 2009 yn newid Rheolau Cydradd-ddaliad (Cofrestru Tir) 2004 ("rheolau 2004") ymhellach fel, gydag un eithriad, y cyfnewidir "erthyglau cyweithio" gyda "memorandwm ac erthyglau cyweithio" a "memorandwm neu erthyglau cyweithio" lle y mae'r termau hyn yn ymddangos yn rheolau 2004 ac yn y ffurflenni a bennir ganddynt.
Mae Gorchymyn Cofrestru Tir (Swyddfa Briodol) 2009 yn pennu swyddfeydd penodol y gofrestrfa tir fel y swyddfa briodol ar gyfer derbyn disgrifiadau penodol o geisiadau o dan Ddeddf Cofrestru Tir 2002. Mae'n disodli Gorchymyn Cofrestru Tir (Swyddfa Briodol) 2008.
Hefyd, daw paragraff 40 o Atodiad 1 i Reolau Cofrestru Tir (Newidiad) 2008 i rym. Mae'n disodli rheol 111 (tystysgrif cofrestru arwystlon cwmni) newydd yn Rheolau Cofrestru Tir 2003. Mae fersiwn newydd y rheol yn ystyried darpariaethau Deddf Cwmnïau 2006 a ddaw i rym ar 1 Hydref 2009. Mae hefyd yn nodi'r hyn y gellir ei roi ar y gofrestr yn fwy clir.
Dilynwch y cyswllt i fersiwn o Reolau Cofrestru Tir 2003 sy'n dangos effaith derfynol deddfwriaeth newid hyd at ac yn cynnwys Rheolau Cydradd-ddaliad (Cofrestru Tir) 2009.
Dilynwch y cyswllt i fersiwn o Reolau Cydradd-ddaliad (Cofrestru Tir) 2004 sy'n dangos effaith derfynol deddfwriaeth newid hyd at ac yn cynnwys Rheolau Cydradd-ddaliad (Cofrestru Tir) 2009.
Daw'r ddarpariaeth statudol canlynol i rym ar 11 Ionawr 2010.
Mae'r Gorchymyn Cofrestru Tir (Swyddfa Briodol) (Rhif 2) 2009 yn pennu swyddfeydd penodol y Gofrestrfa Tir fel y swyddfa briodol ar gyfer derbyn disgrifiadau penodol o geisiadau o dan Ddeddf Cofrestru Tir 2002. Mae'n disodli Gorchymyn Cofrestru Tir (Swyddfa Briodol) 2009.
Deddfwriaeth ar wefan Swyddfa Gwybodaeth y Sector Cyhoeddus :
|