Mae'r fersiwn hwn o Reolau Cofrestru Tir 2003 ('RhCT 2003') yn dangos effaith deddfwriaeth newid hyd at ac yn cynnwys Gorchymyn Deddf Elusennau (newidiadau i Elusennau Esempt) 2010 a ddaw i rym ar 1 Mehefin 2010.
Dim ond effaith derfynol deddfwriaeth newid a ddangosir. Lle newidiwyd un o ddarpariaethau RhCT 2003 ac mae'r geiriad diwygiedig ei hun yn cael ei newid, dim ond effaith y ddeddfwriaeth newid ddiweddaraf a ddangosir a bydd y nodyn ar ôl y rheol dan sylw yn cyfeirio at hyn yn unig.
Defnyddir cromfachau a nodiadau eglurhaol i ddangos bod testun wedi cael ei ddileu a bod testun wedi cael ei ychwanegu neu ei ddisodli.
Credwn fod y testun yn gywir, ond dylech gyfeirio at RhCT 2003 a'r ddeddfwriaeth newid fel mae'r rhain yn ymddangos ar wefan Swyddfa Gwybodaeth y Sector Gwybodaeth i fodloni'ch hun ynghylch unrhyw faterion rydych yn bwriadu dibynnu arnynt. Mae'r ddeddfwriaeth yn ddarostyngedig i hawlfraint y Goron.
|