Bydd dau ddigwyddiad newydd yn cael eu hychwanegu at y rhestr o drafodion sy’n peri cofrestriad cyntaf gorfodol teitl pan ddaw Gorchymyn Deddf Cofrestru Tir 2002 (Newidiad) 2008 i rym ar 6 Ebrill 2009. Y rhain yw: - Penodiad ymddiriedolwr newydd tir digofrestredig sy’n cael ei ddal ar ymddiried lle bo’r tir yn cael ei freinio yn yr ymddiriedolwr newydd trwy weithred (gan gynnwys memorandwm a gyflawnwyd fel gweithred y mae adran 83 o Ddeddf Elusennau 1993 yn gymwys iddi) neu drwy orchymyn breinio o dan adran 44 o Ddeddf Ymddiriedolwyr 1925, a
- Dyrannu tir digofrestredig sy’n cael ei ddal ar ymddiried rhwng buddiolwyr yr ymddiried.
Gwnaed y Gorchymyn yn dilyn ymgynghoriad a gynhaliwyd gan y Gofrestrfa Tir, ar ran yr Arglwydd Ganghellor, rhwng Tachwedd 2007 a Chwefror 2008. Bydd ychwanegu’r rhain, ynghyd â’n polisi o annog a hwyluso cofrestriad cyntaf gwirfoddol, yn helpu’r Gofrestrfa Tir i gyflawni’n hamcan strategol tymor hir o greu cofrestr tir gynhwysfawr ar gyfer Cymru a Lloegr. Mae creu cofrestr tir gynhwysfawr yn bwysig gan y bydd yn rhoi i bob perchennog tir cofrestredig y warchodaeth gyfreithiol orau sydd ar gael, ynghyd â mynediad i wybodaeth dda am deitl i brynwyr, a bydd yn hwyluso prynu a gwerthu i bawb. Mae manylion y newidiadau sy’n deillio o’r Gorchymyn ynghyd â deunydd cefndirol am yr ymgynghoriad i’w gweld yma. |