Back to home page To Welsh language site
Prisiau tai
Cofrestru'ch tir
e-drawsgludo
Addysg a hyfforddiant
Eich hawliau gwybodaeth
Practice
Gwybodaeth am eiddo

Cydradd-ddaliad

Derbyniodd Deddf Cydradd-ddaliad a Diwygio Prydlesoedd 2002 y Cydsyniad Brenhinol ar 1 Mai 2002

Mae cydradd-ddaliad yn ddull amgen i’r dull confensiynol o berchen ar fflatiau a mathau eraill o eiddo sy’n dibynnu ar ei gilydd o dan brydles. Nid yw’n ystad newydd mewn tir ond math newydd o berchnogaeth rhydd-ddaliad.

Derbyniodd Deddf Cydradd-ddaliad a Diwygio Prydlesoedd 2002 y Cydsyniad Brenhinol ar 1 Mai 2002.  Daeth Rhan I i rym ar 27 Medi 2004 ar yr un pryd â Rheoliadau Cydradd-ddaliad 2004, Rheolau Cydradd-ddaliad (Cofrestru Tir)  2004 a’r Gorchymyn Ffi (Newidiad) Cofrestru Tir 2004 hefyd. Gyda’i gilydd maent  yn pennu'r gweithdrefnau ar gyfer creu, rheoli a chofrestru tir cydradd-ddaliol.

Manylion y ddeddfwriaeth a deunydd cefndirol


  • Mae Rhan 1 Deddf Cydradd-ddaliad a Diwygio Prydlesoedd 2002 yn pennu'r fframwaith cyfreithiol ar gyfer cydradd-ddaliad.
  • Mae Rheoliadau 2004 yn pennu'r gofynion o ran creu a rheoli datblygiad cydradd-ddaliol.
  • Mae Rheolau Cydradd-ddaliad (Cofrestru Tir) 2004 yn trafod y weithdrefn cofrestru ar gyfer tir cydradd-ddaliol.
  • Mae Gorchymyn Ffi (Newidiad) Cofrestru Tir 2004 yn gosod y ffïoedd ar gyfer cyflwyno ceisiadau cydradd-ddaliad i'r Gofrestrfa Tir.
  • Mae'r 'Golwg ar Gydradd-ddaliad' yn rhoi gwybodaeth gefndirol am gydradd-ddaliad.

Mae Rhan 2 o'r Ddeddf yn cael ei gweithredu ar wahân gan Swyddfa'r Dirprwy Brif Weinidog.



Deddf Cydradd-ddaliad a Diwygio Prydlesoedd 2002

Rheoliadau 2004

Rheolau Cydradd-ddaliad (Cofrestru Tir) 2004

Gorchymyn Ffi (Newidiad) Cofrestru Tir 2004

Cyfarwyddyd Ymarfer 60

Golwg ar Gydradd-ddaliad