Cydradd-ddaliad
Pam gafodd ei gyflwyno?
Defnyddir cydradd-ddaliad yn helaeth (gydag amrywiadau) ledled y byd lle nad oes system brydlesol. Mae gan y system o berchen ar dir trwy les hir lawer o ddiffygion:
- mae les yn ased treuliedig;
- gall y landlord gadw gradd anghyfiawn o reolaeth dros yr eiddo;
- nid yw dogfennaeth lesddaliad yn unffurf; ac
- nid oes hawl ymhlyg i gyfamodau gael eu gorfodi'n uniongyrchol rhwng tenantiaid.
Amcan y cydradd-ddaliad yw goresgyn y problemau hyn trwy freinio rheolaeth a pherchnogaeth o'r cyfleusterau cymunedol mewn cymdeithas sy'n eiddo i'r uned-ddalwyr a chyflwyno unffurfiaeth o ran ffurf a chynnwys y ddogfennaeth.