Cyfunddaliad
Gweithdrefn ar gyfer creu cyfunddaliad
Gwneir cais i'r Gofrestrfa Tir gan un ai ddatblygwr datblygiad newydd arfaethedig, grŵp o lesddeiliaid cyfredol sydd am newid eu heiddo i statws gyfunddaliol, (mae'r Ddeddf yn gwneud darpariaeth sy'n galluogi troi datblygiad lesddaliad yn gyfunddaliad, ond dim ond os yw 100% o'r holl bartļon perthnasol sydd ā budd yn cytuno) neu berchnogion eiddo rhydd-ddaliol cyfredol sydd ā chyfleusterau cymunedol ac sydd hefyd am newid i gyfunddaliad.
Rhaid cyflwyno ceisiadau ar ffurflen CM1. Os nad yw'r tir wedi ei gofrestru eisoes gellir gwneud cais am gofrestriad cyntaf ar yr un pryd gan ddefnydddio ffurflen FR1.
Rhaid amgįu'r dogfennau canlynol gyda'r cais am gyfunddaliad:
- copļau ardystiedig o dystysgrif corffori a memorandwm ac erthyglau cyweithio'r gymdeithas;
- y caniatadau sy'n angenrheidiol yn ōl y Ddeddf a'r Rheoliadau; a
- tystysgrif a ddarperir gan gyfarwyddwyr y gymdeithas cyfunddaliad yn ardystio fel a ganlyn: bod y memorandwm a'r erthyglau yn cydymffurfio ā'r rheoliadau; bod y datganiad cymuned cyfunddaliad a gyflwynir gyda'r cais yn cwrdd ā gofynion y Ddeddf; nad yw'r tir dan sylw yn dir nad yw'n gallu cael ei gyfrif yn dir gyfunddaliol; nad yw'r gymdeithas cyfunddaliad wedi masnachu ac nad yw wedi mynd i atebolrwydd sydd heb gael ei ryddhau.
- Y ffi sy'n ddyledus yn unol ā Gorchymyn Ffi (Newidiad) Cofrestru Tir 2004.
Yn ogystal ā'r dogfennau hyn, rhaid amgįu hefyd gyda'r cais datganiad statudol a wnaethpwyd gan y ceisydd sy'n:
- rhestru'r caniatadau, neu'r gorchmynion llys sy'n esgusodi rhag gael caniatād, a roddwyd;
- cadarnhau nad oes cyfyngiad ar y gofrestr sy'n gwarchod budd y mae angen gael caniatād y daliwr yn ei gylch, neu os oes cyfyngiad sy'n gwarchod budd o'r fath bod y caniatād priodol wedi ei gael;
- cadarnhau nad oes angen cael unrhyw ganiatād arall yn ōl y Ddeddf a'r Rheolau;
- cadarnhau nad oes unrhyw ganiatād sydd wedi cael ei dynnu yn ōl; a
- cadarnhau os yw caniatād yn ddarostyngedig i amodau, bod yr holl amodau wedi cael eu
bodloni.