Rheolau
Anghydfodau
Hyfforddiant
Deddf Cofrestru Tir 2002
Ynglŷn â’r Ddeddf
Amcan y Ddeddf yw symleiddio, gwella a moderneiddio cyfraith cofrestru tir. Mae'r Ddeddf yn darparu fframwaith ar gyfer datblygiad trawsgludo electronig.Ceir sawl newid arwyddocaol i gyfraith ac arfer tir cofrestredig. Yn arbennig, mae newidiadau'n effeithio ar:
- Diogelu buddion trydydd-parti;
- Buddion gor-redol;
- Pa fuddion mewn tir y gellir neu y mae'n rhaid eu cofrestru;
- Meddiant gwrthgefn tir cofrestredig.
Ble mae dod o hyd i'r Ddeddf?
Mae modd gweld testun y Ddeddf a nodiadau esboniadol trwy'r cysylltau canlynol.
Beth yw'r prif newidiadau?
Mae ein Taflenni Ffeithiau yn rhoi trosolwg sylfaenol ar y newidiadau pwysig yn y Ddeddf. Mae'r Cyfarwyddiadau Ymarfer yn rhoi cyfarwyddyd llawn a manwl. Mae Bwletinau Ymarfer yn rhoi gwybodaeth ddiweddar ar bynciau dewisedig. Ers 13 Hydref 2003 mae Ffurflenni'r Gofrestrfa Tir wedi newid.Mae'rTaflenni Ffeithiau, y Cyfarwyddiadau, y Bwletinau a’r ffurflenni newydd ar gael ar y wefan hon i'w darllen neu eu llwytho i lawr.