Rheolau Cofrestru Tir (Cyfeirio at Ddyfarnwr Cofrestrfa Tir EM) 2003
Anghydfodau
Gosodwyd Rheolau Cofrestru Tir (Cyfeirio at Ddyfarnwr Cofrestrfa Tir EM) 2003 (O.S. 2114 o 2003) gerbron y Senedd ar 14 Awst 2003.
Daethant i rym gyda Deddf Cofrestru Tir 2002 a Rheolau Cofrestru Tir 2003 ar 13 Hydref 2003. Cyhoeddir y Rheolau gan y Llyfrfa. Maent ar gael ar-lein yn www.legislation.hmso.gov.uk/stat.htm ac yn siopau'r Llyfrfa Cyf.
Cafwyd cyfnod ymgynghori cyn llunio'r rheolau hyn, a ddaeth i ben ar 28 Mawrth 2003. Os hoffech weld y papur ymgynghori gallwch ei lwytho i lawr drwy'r cyswllt gyferbyn.
Ceir Cyfarwyddiadau Ymarfer sy'n cwmpasu'r maes hwn.