Back to home page To Welsh language site
Prisiau tai
Cofrestru'ch tir
e-drawsgludo
Addysg a hyfforddiant
Eich hawliau gwybodaeth
Practice
Gwybodaeth am eiddo
E-wasanaethau
Land Registry Direct
Find a property

Deddf Cofrestru Tir 2002

Rheolau Cofrestru Tir 2003

Gosodwyd Rheolau Cofrestru Tir 2003 (O.S. Rhif 1417) gerbron y Senedd ar 5 Mehefin 2003.

Mae'r Rheolau yn ymdrin â rhai o'r agweddau mwy technegol ar y system drawsgludo gofrestredig newydd a gyflwynwyd gan Ddeddf Cofrestru Tir 2002. Daethant i rym ar 13 Hydref 2003. Ceir nodyn esboniadol (nad yw'n rhan o'r Rheolau) ar ddiwedd y Rheolau. Mae hwn yn rhoi mwy o fanylion am y materion y mae'r Rheolau yn darparu ar eu cyfer.

Cyhoeddir y Rheolau gan y Llyfrfa. Maent ar gael yn ar-lein ac yn siopau'r Llyfrfa Cyf.

Arferir yr hawl i wneud Rheolau Cofrestru Tir gan yr Arglwydd Ganghellor a'r Ysgrifennydd Gwladol gyda chyngor a chymorth y Pwyllgor Rheolau.

Rheolau Cofrestru Tir (Newidiad) (Rhif 2) 2005

Mae newid sylweddol yn y modd y mae'r Gofrestrfa Tir yn prosesu ceisiadau i gofrestru prydlesi wedi ei gymeradwyo. Gosodwyd Rheolau Cofrestru Tir (Newidiad) (Rhif 2) 2005 gerbron y Senedd ym mis Gorffennaf ac maent yn dod i rym yn 2006.

Cyfres o fanylion safonol yw cymalau penodedig, a rhaid iddynt ymddangos ar ddechrau unrhyw brydles o ystad gofrestredig am saith mlynedd neu ragor (ceir ambell eithriad). Mae'r cymalau penodedig yn cynnwys yr holl wybodaeth sydd ei hangen ar y Gofrestrfa Tir i gwblhau cofrestriad y brydles.

Gellir cwblhau'r cymalau'n hawdd naill ai trwy nodi'r wybodaeth angenrheidiol neu trwy groesgyfeirio at rannau perthnasol y ddogfen. Bydd y newid hwn yn cyflymu ac yn symleiddio'r broses gofrestru, gan arwain at gofrestr teitl fwy cywir a chyflawn.

Rheolau Cofrestru Tir 2003

Rheolau Cofrestru Tir (Newidiad) (Rhif 2) 2005

Rheolau Cofrestru Tir 2003

Gorchymyn Deddf Cofrestru Tir 2002 (Darpariaethau Trosiannol) 2003

Gorchymyn Deddf Cofrestru Tir 2002 (Darpariaethau Trosiannol) (Rhif 2) 2003

Hysbysiadau a Chyfarwyddiadau gan y Prif Gofrestrydd Tir

Pwyllgor Rheolau Cofrestru Tir

Cynllun Cyhoeddiadau Rhyddid Gwybodaeth y Pwyllgor Rheolau Cofrestru Tir

Rheolau Cofrestru Tir (Newidiad) 2005

Rheolau Pridiannau Tir (Newidiad) 2005