Deddf Cofrestru Tir 2002
Gorchymyn Deddf Cofrestru Tir (Darpariaethau Trosiannol) 2003
Daeth Gorchymyn Deddf Cofrestru Tir 2002 (Darpariaethau Trosiannol) 2003, (O.S. 2003 Rhif 1953), i rym ar 13 Hydref 2003. Mae'r Gorchymyn hwn yn gwneud darpariaethau trosiannol yn ychwanegol at y darpariaethau trosiannol a gaiff eu cynnwys yn Atodlen 12 i Ddeddf Cofrestru Tir 2002.
Mae'r Gorchymyn yn cynnwys darpariaethau sy'n ymdrin â
- Ceisiadau sy'n aros i'w prosesu ar 13 Hydref 2003
- Darpariaethau trosiannol ar gyfer rhybuddiadau a chyfyngiadau
- Cyfnodau gras ar gyfer defnyddio hen ffurflenni
- Cyfnodau blaenoriaeth a ddechreuodd cyn 13 Hydref 2003
- Anghydfodau sy'n bodoli ar 13 Hydref 2003
- Effeithiolrwydd parhaus rhai cofnodion cofrestr
Cyhoeddir y Gorchymyn gan y Llyfrfa. Mae ar gae ar lein ac yn siopau'r Llyfrfa Cyf.