Deddf Cofrestru Tir 2002
Gorchymyn Deddf Cofrestru Tir 2002 (Darpariaethau Trosiannol) (Rhif 2) 2003
Daeth Gorchymyn Deddf Cofrestru Tir (Darpariaethau Trosiannol) (Rhif 2) 2003 (O.S. 2003 Rhif 2431), i rym ar 13 Hydref 2003.
Roedd atebolrwydd i atgyweirio cangell unrhyw eglwys yn un o'r buddion gor-redol o dan adran 70(1)(c) Deddf 1925. Mae'r Gorchymyn yn ymestyn statws gor-redol y budd hwn ar gyfer cyfnod trosiannol o ddeng mlynedd.
Roedd y gorchymyn yn angenrheidiol yn dilyn penderfyniad yn Aston Cantlow and Wilmcote with Billesley Parochial Council v Wallbank [2003] 3 ALL ER 1213.
Mae'r ddarpariaeth hon yn ychwanegol at y darpariaethau trosiannol a geir yn Atodlen 12 i'r Ddeddf ac yng Ngorchymyn Deddf Cofrestru Tir 2002 (Darpariaethau Trosiannol) 2003 (OS 2003/1953).
Cyhoeddir y Gorchymyn gan y Llyfrfa. Mae ar gael ar-lein ac yn siopau'r Llyfrfa Cyf.