Back to home page To Welsh language site
Prisiau tai
Cofrestru'ch tir
e-drawsgludo
Addysg a hyfforddiant
Eich hawliau gwybodaeth
Practice
Gwybodaeth am eiddo

Deddf Cofrestru Tir 2002: y newidiadau a allai effeithio arnoch chi

Isod ceir manylion y newidiadau a wnaed gan y Ddeddf:

Cofrestri presennol

Os oeddech yn berchen ar dir cofrestredig cyn 13 Hydref 2003 fe'ch hysbysir na fydd cofrestri presennol yn newid. Bydd yr holl gofnodion ynddynt yn parhau i gael yr un effaith ar ôl 13 Hydref 2003.

Cyfeiriadau ar gyfer gohebu

Gallwch gael cyfeiriad e-bost neu gyfeiriad y tu allan i'r DU bellach ar y gofrestr. Gallwch feddu ar hyd at dri chyfeiriad ac mae'n rhaid i un ohonynt fod yn gyfeiriad post. Mae'n bwysig iawn bellach i'n hysbysu os bydd angen newid y cyfeiriadau hyn. Am wybodaeth fanylach gweler Taflen Ffeithiau 1 sef Cyfeiriad ar gyfer Gohebu.

Prydlesi a Thenantiaethau - buddion newydd y mae'n rhaid eu cofrestru

Mae'n rhaid i chi bellach gofrestru:

  • prydlesi neu denantiaethau am gyfnod hwy na saith mlynedd
  • prydlesi neu denantiaethau sy'n parhau am fwy na saith mlynedd ar adeg trosglwyddo i berchennog newydd
  • prydlesi neu denantiaethau o unrhyw hyd sy'n dechrau mwy na thri mis ar ôl y dyddiad y'u rhoddwyd
  • prydlesi amharhaol - er enghraifft prydles ryddfreintiol am bythefnos bob blwyddyn a roddir o deitl cofrestredig, pa hyd bynnag yw'r brydles

Cyn 13 Hydref 2003 dim ond prydlesi a roddwyd am gyfnod a oedd yn fwy na 21 o flynyddoedd yr oedd yn rhaid eu cofrestru. Am wybodaeth fanylach gweler Taflen Ffeithiau 7 sef Cofrestriad Cyntaf a Thaflen Ffeithiau 11 sef Prydlesi

Buddion newydd mewn tir a allai gael eu cofrestru

Gallwch gofrestru'r buddion hyn yn wirfoddol bellach

  • prydlesi amharhaol - er enghraifft prydles ryddfreintiol am bythefnos bob blwyddyn - a roddir o deitl nas cofrestrwyd os yw'n parhau am lai na saith mlynedd
  • prydlesi presennol â mwy na saith mlynedd ar ôl
  • 'proffidiau à prendre mewn gros' - fel hawliau hela a physgota penodol sy'n annibynnol ar berchnogaeth tir
  • rhyddfreintiau - mae'r rhain yn fuddion arbennig a roddir gan y Goron fel yr hawl i gynnal marchnad neu godi toll

Am wybodaeth fanylach gweler Taflen Ffeithiau 7 sef Cofrestriad cyntaf.

Dileu tystysgrifau tir ac arwystl

Nid yw'r Gofrestrfa Tir yn rhoi tystysgrifau tir neu arwystl bellach. Nid oes angen i chi anfon tystysgrif sy'n bodoli eisoes atom gydag unrhyw gais. Os byddwch yn anfon tystysgrif byddwn yn ei dinistrio. Os ydych wedi colli eich tystysgrif tir neu arwystl nid oes angen i chi wneud cais am un yn ei lle.

Am wybodaeth fanylach gweler Taflen Ffeithiau 10 sef Tystysgrifau Tir ac Arwystl a Dogfennau Gwybodaeth am Deitl.

Mwy o wybodaeth ar gael i'r cyhoedd

Mae'r gofrestr yn dal i fod ar agor i'r cyhoedd:

  • Gallwch gael copïau hanesyddol o'r gofrestr a ddelir gan y Gofrestrfa Tir ar ffurf electronig.
  • Gallwch gael copi o unrhyw ddogfen a gyflwynir i'r Gofrestrfa Tir ar ôl 13 Hydref 2003 oni bai ei bod wedi'i heithrio.

Am wybodaeth fanylach gweler Taflen Ffeithiau 9 sef Gwybodaeth.

Terfynau penodol

Mae'r weithdrefn newydd ar gyfer 'Terfynau penodol' yn eich galluogi i nodi union linell eich Terfynau ar eich cofrestr. Mae'n rhaid i chi ddarparu cynllun manwl a meddu ar dystiolaeth sy'n dangos y Terfyn yn union.

Am wybodaeth fanylach gweler Taflen Ffeithiau 3 sef Terfynau.

Ni ellir cofrestru rhybuddiadau yn erbyn deliadau mwyach (o dan Ddeddf Cofrestru Tir 1925 mae'r rhain yn fuddion amrywiol a ddiogelir fel contractau, gorchmynion tâl ac achosion llys). Mae rhybuddiadau a gofrestrwyd cyn 13 Hydref 2003 yn weithredol o hyd. Mae mathau newydd o ddiogelwch ar gyfer buddion trydydd person ar gael bellach.

Am wybodaeth fanylach gweler Taflen Ffeithiau 12 sef Rhybuddion a Gytunwyd a Rhybuddion Unochrog, Taflen Ffeithiau 14 sef Cyfyngiadau, a Thaflen Ffeithiau 16 sef Buddion Trydydd Parti - siart cymhariaeth.

Cysylltu â'r Gofrestrfa Tir

Os byddwch yn cysylltu â'r Gofrestrfa Tir bydd angen i chi ddefnyddio'r ffurflenni newydd a dilyn y gweithdrefnau newydd. Gweler y taflenni ffeithiau a'r cyfarwyddiadau ymarfer. Gallwch lwytho'r ffurflenni newydd o'r wefan hon. Os oes angen rhagor o help arnoch cysylltwch â'r swyddfa briodol yn y Gofrestrfa Tir.

Hawliau sgwatwyr

Gall sgwatiwr tir cofrestredig wneud cais i gael ei gofrestru fel perchennog y tir hwnnw os oes ganddo feddiant gwrthgefn (h.y. wedi bod yn byw yno heb gael ei herio) am o leiaf 10 mlynedd.

Am wybodaeth fanylach gweler Taflen Ffeithiau 2 sef Meddiant Gwrthgefn.

Datgelu buddion nas cofrestrwyd

Ni nodir pob budd sy'n effeithio ar dir yn y gofrestr. Pan fyddwch yn cofrestru tir am y tro cyntaf bellach neu os bydd y perchennog yn newid mae'n rhaid datgelu rhai buddion nas cofrestrwyd i'r Gofrestrfa Tir, er enghraifft, mathau penodol o brydlesi byr a hawliau tramwy.

Am wybodaeth fanylach gweler Taflen Ffeithiau 13 sef Buddion gor-redol y gellir eu datgelu.

Mynegai newydd Rhyddfreintiau Cysylltiedig a Maenorau

Gallwch ddefnyddio'r mynegai newydd hwn i ganfod pa un a oes arglwydd y faenor wedi cofrestru ei deitl. Bydd hefyd yn dangos pa un a oes rhyddfraint gofrestredig gysylltiedig (h.y. budd a roddir gan y Goron fel yr hawl i gynnal marchnad mewn ardal arbennig, yn hytrach nag ar ddarn penodol o dir) yn effeithio ar ardal weinyddol benodol o dir.

Am wybodaeth fanylach gweler Taflen Ffeithiau 8 sef Mynegai Rhyddfreintiau cysylltiedig a maenorau.

Gwybodaeth Bellach

Os hoffech gael ragor o wybodaeth am unrhyw bwnc a grybwyllwyd edrychwch ar y Taflenni Ffeithiau, Cyfarwyddiadau Ymarfer a Bwletinau Ymarfer priodol, neu cysylltwch â'ch ymgynghorydd cyfreithiol.

Hefyd edrychwch ar Gwestiynau a Ofynnir yn Aml. Efallai fod unrhyw gwestiynau sydd gennych wedi'u hateb yn yr adran hon.

Gallwch hefyd ffonio adran Ymholiadau eich swyddfa Cofrestrfa Tir leol.