Back to home page To Welsh language site
Prisiau tai
Cofrestru'ch tir
e-drawsgludo
Addysg a hyfforddiant
Eich hawliau gwybodaeth
Practice
Gwybodaeth am eiddo
E-wasanaethau
Land Registry Direct
Find a property

Atal twyll

Fel rheol, tir ac adeiladau yw’r asedau mwyaf gwerthfawr sydd gan bobl. Gellir eu gwerthu a’u morgeisio i godi arian ac felly gallant fod yn dargedau deniadol i dwyllwyr.

Mae gan y Gofrestrfa Tir, trawsgludwyr proffesiynol a rhoddwyr benthyg morgeisi drefniadau diogelwch i leihau’r perygl o dwyll llwyddiannus. Fodd bynnag, mae’n bwysig bod perchnogion eiddo yn gwneud yr hyn a allant i helpu atal twyll a gwarchod eu perchnogaeth fel byddent yn gwarchod y pethau eraill yn eu meddiant.

Mae'r Gofrestrfa Tir wedi cyhoeddu cyfarwyddyd cyhoeddus gyda'r amcan o roi cyngor ar yr hyn y gallwch ei wneud i'ch diogelu'ch hunan yn erbyn twyll eiddo.