Atal twyll
Fel rheol, tir ac adeiladau yw'r asedau mwyaf gwerthfawr sydd gan bobl. Gellir eu gwerthu a'u morgeisio i godi arian ac felly gallant fod yn dargedau deniadol i dwyllwyr.
Mae gan y Gofrestrfa Tir, trawsgludwyr proffesiynol a rhoddwyr benthyg morgeisi drefniadau diogelwch i leihau'r perygl o dwyll llwyddiannus.
Fodd bynnag, mae'n bwysig bod perchnogion eiddo yn gwneud yr hyn a allant i helpu atal twyll a gwarchod eu perchnogaeth fel byddent yn gwarchod y pethau eraill yn eu meddiant.
Mae'r Gofrestrfa Tir wedi cyhoeddi Cyfarwyddyd Cyhoeddus (rhif 17) gyda'r amcan o roi cyngor ar yr hyn y gallwch ei wneud i'ch diogelu'ch hunan yn erbyn twyll eiddo.
|
 |
Cadw eich manylion cyswllt yn gyfredol
Un peth y gall perchnogion eiddo ei wneud yw cadw eu manylion cyswllt gyda ni yn gyfredol fel y gallwn eu hysbysu am geisiadau am newidiadau i'w cofrestr. Gall perchnogion eiddo gael hyd at dri chyfeiriad cyswllt (cyfeiriadau ar gyfer gohebu), sy'n gallu cynnwys cyfeiriad ebost neu gyfeiriad tramor.
Mae hyn yn arbennig o bwysig lle nad yw'r perchennog yn byw yn yr eiddo. Os bydd unrhyw un rhentu ei eiddo neu'n bwriadu ei adael yn wag, mae'n hanfodol eu bod yn rhoi cyfeiriad i'r Gofrestrfa Tir lle y gallwn anfon gohebiaeth mewn perthynas â'r eiddo.
Ceir rhagor o wybodaeth yn Nghyfarwyddyd cyhoeddus (rhif 2) am gadw manylion cyswllt yn gyfredol.
Noder: - Nid oes ffi i ddiweddaru eich manylion cyswllt ac mae'n hawdd i'w wneud
- Nid oes angen cyfreithiwr arnoch
- Gallwch gael hyd at dri chyfeiriad ar gyfer gohebu ar y gofrestr
|
 |
Sut i wirio neu ddiweddaru eich manylion cyswlltto check or update your contact details
Gallwch ysgrifennu atom, gan ddweud wrthym pwy ydych a pha gyfeiriad(au) y credwch dylai fod ar y gofrestr. Byddwn naill ai yn cadarnhau bod eich manylion yn gywir, neu, os nad ydynt, yn trin eich llythyr fel cais i ddiweddaru eich manylion cyswllt. Yna byddwn yn ysgrifennu atoch i gadarnhau hynny. Yn anffodus, ni allwn gadarnhau eich manylion cyswllt dros y ffôn am resymau diogelwch.
Ysgrifennwch at swyddfa'r Gofrestrfa Tir sy'n ymdrin â cheisiadau yn eich ardal. Defnyddiwch y cyfleuster Chwilio am swyddfa i ddod o hyd i'r cyfeiriad.
Gallwch hefyd gadarnhau eich manylion cyswllt drwy wneud cais am gopïau swyddogol o'r gofrestr, neu drwy ymweld â'r gwasanaeth Chwilio am Eiddo. Fodd bynnag, codir ffïoedd am y gwasanaethau hyn.
Mae'r Gofrestrfa Tir yn darparu'r wybodaeth ganlynol sy'n esbonio beth i'w wneud yn fwy manwl.
|
 |