Cyflwynodd Cyllideb 2008 nifer o newidiadau gyda'r amcan o leihau'r baich gweinyddol sy'n gysylltiedig â Threth Tir Toll Stamp (SDLT). Mae'r trothwy lle mae'n rhaid hysbysu trafodiad wedi ei symleiddio a diddymwyd yr hunan-dystysgrif SDLT60 i bob diben. Pryd nad oes angen tystiolaeth SDLT? Nid oes angen tystiolaeth SDLT dan yr amgylchiadau canlynol lle cwblhawyd y trafodiad ar neu ar ôl 12 Mawrth 2008: Caffaeliad (heblaw grant, aseiniad neu ildiad prydles) lle bo'r gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer y caffaeliad hwnnw (ynghyd ag unrhyw drafodiad cysylltiedig) yn llai na £40,000. Mae hyn yn cynnwys trosglwyddiadau o dir rhydd-ddaliol, gweithredoedd rhodd a gweithredoedd grant hawddfraint. Mae hyn yn cynnwys nodi buddion yn ogystal â'u cofrestru'n safonol. Grant o brydles am gyfnod o saith mlynedd neu fwy lle mae'r canlynol yn wir: mae'r premiwm yn llai na £40,000 ac mae'r rhent blynyddol yn llai na £1,000.
Aseinio neu ildio prydles dan yr amgylchiadau canlynol: rhoddwyd y brydles yn wreiddiol am gyfnod o saith mlynedd neu fwy; ac mae'r gydnabyddiaeth am yr aseiniad neu'r ildiad, heblaw unrhyw rent, yn llai na £40,000; ac mae'r rhent yn llai na £1,000.
Mae prydles yn cael ei rhoi, ei haseinio neu ei hildio am gyfnod o lai na saith mlynedd lle nad yw'r premiwm yn uwch na'r trothwy cyfradd o ddim, h.y. £125,000 yn achos eiddo preswyl a £150,000 yn achos eiddo masnachol. Nid oes angen tystiolaeth SDLT chwaith yn achos trafodion a eithriwyd yn unol ag Atodlen 3 Deddf Cyllid 2003.
Pryd bydd angen tystiolaeth SDLT? Mae angen SDLT5, gan gynnwys prawf o dderbyn (SDLT5 electronig) a thystysgrifau gwerthwr trydydd parti, ar gyfer pob trafodiad arall, nad yw'n cael ei ystyried yn drafodiad heb fod yn brif drafodiad. Buddion heb fod yn brif fuddion Nid oes angen hysbysu caffaeliad budd trethadwy heblaw prif fudd mewn tir oni bai fod cydnabyddiaeth drethadwy lle bo SDLT yn daladwy yn ôl cyfradd o 1 y cant neu fwy. Er enghraifft, mae caffael hawddfraint yn gaffaeliad budd trethadwy nad yw'n brif fudd mewn tir. Felly, pe byddai'r gydnabyddiaeth drethadwy yn ôl cyfradd o 1 y cant neu fwy, byddai rhaid hysbysu'r trafodiad. Nid oes angen tystiolaeth SDLT os yw'r gydnabyddiaeth rhwng £40,000 a £125,000 yn achos tir preswyl a rhwng £40,000 a £150,000 yn achos tir masnachol. Cyffredinol Caiff unrhyw gais sydd wedi cael ei roi o'r neilltu gan y Gofrestrfa Tir i aros am SDLT60 ei gwblhau heb ystyried pryd y cwblhawyd y trafodiad, yn amodol ar dderbyn atebion i unrhyw ymholiadau eraill. Mae'r Gofrestrfa Tir yn diweddaru ei hymarfer mewnol ac allanol a chaiff y Cyfarwyddiadau Ymarfer perthnasol eu diweddaru mor fuan â phosibl. Mae manylion pellach y newidiadau yn y Gyllideb sy'n effeithio ar SDLT i'w gweld ar wefan Cyllid a Thollau EM. |