logo_w

Data cyhoeddus

Beth yw data cyhoeddus?

Mae data cyhoeddus yn ddata gwrthrychol, ffeithiol nad yw'n ddata personol a ddefnyddir i redeg ac asesu gwasanaethau cyhoeddus ac a ddefnyddir fel sail i benderfyniadau polisi. Mae'n cynnwys data a gasglwyd neu a grëwyd wrth gyflwyno gwasanaethau cyhoeddus.

Fel rhan o'n hymrwymiad i flaenoriaethau'r Llywodraeth o ran twf economaidd a thryloywder data, rydym wedi ymrwymo i ryddhau rhagor o'n data er mwyn cefnogi cam tuag at well gonestrwydd.

Pa ddata y mae'r Gofrestrfa Tir yn ei gyhoeddi?

Mae amrywiaeth o setiau data cyfeirio craidd ar gael am ddim gan y Gofrestrfa Tir, yn unol â'r Bwrdd Strategaeth Data a'r Grŵp Data Cyhoeddus.

Nid yw data personol ac enwau wedi'u cynnwys yn y setiau data hyn er mwyn gwarchod preifatrwydd. Gweler ein cwestiynau a ofynnir yn aml i gael rhagor o wybodaeth.

Beth yw'r Drwydded Llywodraeth Agored?

Mae ein setiau data pris a dalwyd a data trafodiad ar gael i'w defnyddio a'i hail-ddefnyddio o dan y Drwydded Llywodraeth Agored (TLlA) Trwydded Llywodraeth Agored. Mae hon yn drwydded sy'n galluogi cyrff cyhoeddus i wneud eu data ar gael i'w ail-ddefnyddio.

Pam fod y Gofrestrfa Tir yn rhyddhau data cyhoeddus?

Mae gan y Llywodraeth ymrwymiad clir i well tryloywder o wybodaeth gyhoeddus a bwriad i barhau i agor data'r sector cyhoeddus sy'n seiliedig ar egwyddorion yr hawl ehangach i ddata a'r rhagdybiaeth o gyhoeddi.

Mae agor data'r sector cyhoeddus yn rhoi cyfleoedd i ddatblygwyr menter, busnesau a'r cyhoedd greu twf cymdeithasol ac economaidd trwy'r defnydd o'r data.

Rydym eisoes yn cyhoeddi ystod eang o ddata ac rydym wedi ymrwymo i ryddhau rhagor o'n data er mwyn cefnogi'r cam hwn tuag at well gonestrwydd. Rydym yn bwriadu ychwanegu at y data a gyhoeddir ar y dudalen hon a fydd, yn ein barn ni:

  • o fudd ehangach i'r cyhoedd
  • yn wybodaeth y gofynnir amdani'n aml
  • yn wybodaeth nad yw ar gael gennym mewn unrhyw fan arall.

Pa ddata arall mae'r Gofrestrfa Tir yn ei ddarparu?

Yn ogystal â'n data cyhoeddus, rydym yn darparu data masnachol trwy ein hystod o wasanaethau Add Value. Dysgu rhagor am ein gwasanaethau Add Value.

 

Mynegai Prisiau Tai

Mawrth 2013: 259.8

(Ionawr 1995 = 100)

Pris cyfartalog £161,793 Newid:
Misol 0.1%
Blynyddol 0.9%
Mynegai nesaf: 11 y bore ar 30 Mai 2013

Cysylltu â ni

Bydd ein tîm Cefnogaeth i Gwsmeriaid yn ateb eich cwestiynau ac yn ymateb i'ch ymholiadau trwy ebost neu dros y ffôn.

Cysylltu...
© Hawlfraint y Goron 2012 Preifatrwydd a Chwcis Telerau ac Amodau Map o'r wefan Wedi'i bweru gan Squiz Matrix