Cydraddoldeb ac amrywiaeth

Sut rydym yn hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, y sefydliadau rydym yn gweithio â nhw a'n cyfrifoldebau cyfreithiol.


Gwybodaeth rydym yn ei chyhoeddi

Darllenwch ein Adroddiad Gwybodaeth am Gydraddoldeb 2021 i 2022 i gael gwybod am:

  • ein gweithwyr
  • sut rydym wedi monitro a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth
  • ein cynlluniau gwella

Rhwydweithiau staff

Mae’r rhwydweithiau staff canlynol yn cyfrannu at ein nodau amrywiaeth:

  • DEN (Rhwydwaith Gweithwyr Anabl)
  • REACH (Hil, Cydraddoldeb a Threftadaeth Ddiwylliannol)
  • Pride (rhwydwaith staff ar gyfer cyfeiriadedd rhywiol a hunaniaeth rhywedd)
  • Rhwydwaith Menywod
  • Y Rhwydwaith Oedran
  • Rhwydwaith Ffydd a Chred
  • Rhwydwaith Symudedd Cymdeithasol

Daw ein rhwydweithiau staff ynghyd i ffurfio’r Gweithgor Amrywiaeth sy’n gweithio ar faterion amrywiaeth sy’n effeithio ar weithwyr a chwsmeriaid Cofrestrfa Tir EM.

Mae pob rhwydwaith yn cael ei gynorthwyo gan y tîm Amrywiaeth gyda chefnogaeth ein Panel Amrywiaeth a Hyrwyddwyr Amrywiaeth y Bwrdd.

Y sefydliadau rydym yn gweithio â nhw

Mae ein haelodaeth o’r sefydliadau canlynol wedi ein helpu i ddatblygu ein cynlluniau amrywiaeth:

Ein cyfrifoldebau cyfreithiol

Mae’n ofynnol o dan Adran 149 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a’r Rheoliadau Deddf Cydraddoldeb 2010 (Dyletswyddau Penodol) 2011 inni gyhoeddi gwybodaeth, o leiaf unwaith y flwyddyn, i ddangos ein cydymffurfiaeth â’r ddyletswydd cydraddoldeb cyffredinol.

Cysylltu

Diversity team

HR Service Centre
PO Box 11229
1 Unity Square
Nottingham
NG2 9AF