Cynllun iaith Gymraeg

Sut rydym yn ystyried anghenion y Gymraeg wrth ddarparu gwasanaethau i'r cyhoedd yng Nghymru.


Mae Deddf yr Iaith Gymraeg 1993 yn gosod dyletswydd ar bob corff sector cyhoeddus i drin y Gymraeg a’r Saesneg yn gyfartal wrth ddarparu gwasanaethau i’r cyhoedd yng Nghymru. O ganlyniad, paratowyd Cynllun iaith Gymraeg gan Gofrestrfa Tir EF o dan adran 21(3) y ddeddf a chafodd ei gymeradwyo’n llawn gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg ym Mawrth 1998. Moderneiddiwyd y fframwaith cyfreithiol cyfredol o ran defnyddio’r Gymraeg wrth gyflawni gwasanaethau cyhoeddus gan Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011. Mae’r Mesur yn cynnwys darpariaeth am statws swyddogol y Gymraeg ac yn sefydlu swydd Comisiynydd y Gymraeg (y corff annibynnol sy’n monitro’n Cynllun Iaith) sydd wedi disodli Bwrdd yr Iaith Gymraeg.

Cymeradwywyd ail argraffiad y cynllun yn Ionawr 2002, y trydydd yn Chwefror 2005, y pedwerydd ym Mawrth 2010 a’r pumed ym Medi 2019. Yn unol â darpariaethau’r cynllun, bydd Cofrestrfa Tir EF yn trin y Gymraeg a’r Saesneg yn gyfartal wrth gynnal ei busnes cyhoeddus yng Nghymru.

Y gwasanaethau a ddarperir

Ceisiadau a gohebiaeth

Mae Cofrestrfa Tir EF yn croesawu ceisiadau a gohebiaeth yn Gymraeg a Saesneg a bydd yn prosesu ac yn ymateb yn yr iaith honno. Gellir delio â gohebiaeth dros y ffôn, gohebiaeth ysgrifenedig a cheisiadau safonol yn Gymraeg neu Saesneg, ac rydym yn delio â phob ymholiad neu gais ar y sail bod y ddwy iaith yn gyfartal.

Gall unrhyw un sy’n cael gohebiaeth neu rybuddion Saesneg ond a hoffai gael rhai Cymraeg ofyn am fersiynau Cymraeg.

Mae gennym linell ffôn Gymraeg benodedig ar gyfer ymholiadau cyffredinol: 0300 006 0422.

Cofrestri dwy iaith

Mae templed cofrestr pob teitl yng Nghymru’n cael ei gynhyrchu ar ffurf ddwyieithog. Mae’r penawdau a’r wybodaeth safonol yn ymddangos yn Gymraeg a Saesneg ac mae cofnodion y gofrestr yn ymddangos yn iaith y ddogfen wreiddiol y maent yn seiliedig arni.

Mae cyfarwyddyd ymarfer 58 yn manylu ar ffurf cofrestri yng Nghymru.

Cyhoeddiadau

Mae fersiynau Cymraeg, pan fyddant ar gael, ar gael trwy’r cyswllt ‘Cymraeg’ ar y dudalen.

Mae ein cyhoeddiadau Cymraeg yn cynnwys:

Mae gennym hefyd gyfarwyddiadau ar gofrestru tir neu eiddo, cael gwybodaeth am eiddo a thir, terfynau, cydberchnogaeth, ysgaru a thwyll eiddo.

Gwasanaethau eraill

Mae’r gwasanaethau hyn ar gael yn Gymraeg hefyd:

Geirfa o dermau cyfreithiol

Gellir cyfeirio at eirfa o dermau cyfreithiol Cofrestrfa Tir EF wrth ddelio â ni trwy gyfrwng y Gymraeg.

Cysylltu

I gael rhagor o wybodaeth am y gwasanaethau Cymraeg, cysylltwch â Phennaeth y Gwasanaethau Cymraeg.

Eleri Sparnon Jones, Pennaeth y Gwasanaethau Cymraeg

Cofrestrfa Tir EF
Tŷ Cwm Tawe
Ffordd y Ffenics
Parc Anturiaeth Abertawe
Abertawe
SA7 9FQ

E-bost eleri.jones@landregistry.gov.uk

Ffôn 0300 006 9567