Datganiad i'r wasg

Data Trafodiad mis Mehefin 2014

Mae'r data a gyhoeddir ar y dudalen hon yn rhoi gwybodaeth am nifer a'r mathau o geisiadau a gwblhawyd gan y Gofrestrfa Tir ym mis Mehefin 2014.

Land Registry Croydon office
  • Y Gofrestrfa Tir yn cwblhau 1,414,785 o geisiadau
  • De Ddwyrain Lloegr ar frig y tabl o geisiadau rhanbarthol gyda 326,514 o geisiadau
  • Birmingham ar frig y tabl o geisiadau gan awdurdodau lleol gyda 21,101 o geisiadau

Mae’r Data Trafodiad yn dangos i’r Gofrestrfa Tir gwblhau dros 1,414,780 o geisiadau gan ei chwsmeriaid ym mis Mehefin. Mae hyn yn cynnwys 1,365,798 o geisiadau gan gwsmeriaid cyfrif, gyda 348,972 ohonynt yn geisiadau mewn perthynas â thir cofrestredig (deliadau); 607,931 yn geisiadau i gael copi swyddogol o gofrestr neu gynllun teitl; 202,412 yn chwiliadau a 79,809 yn drafodion am werth.

Ceisiadau fesul rhanbarth

Rhanbarth Ceisiadau
De Ddwyrain Lloegr 326,514
Llundain Fwyaf 266,708
Gogledd Orllewin Lloegr 161,232
De Orllewin Lloegr 140,087
Gorllewin Canolbarth Lloegr 117,710
Swydd Gaerefrog a’r Humber 113,787
Dwyrain Canolbarth Lloegr 100,789
Cymru 64,652
Gogledd Lloegr 64,560
Dwyrain Anglia 58,637
Cymru a Lloegr (heb eu haseinio) 71
Ynysoedd Sili 38
Cyfanswm 1,414,785

Tri phrif awdurdod lleol

Tri phrif awdurdod lleol Ceisiadau
Birmingham 21,101
City of Westminster 20,906
Leeds 18,438

Tri phrif gwsmer fesul trafodiad

Tri phrif gwsmer Trafodion am werth
My Home Move Limited 1,496
Countrywide Property Lawyers 959
O’Neill Patient 738

Tri phrif gwsmer yn ôl chwiliadau

Tri phrif gwsmer Chwiliadau
Brighouses incorporating Epsley & Co. 12,397
Enact 6,095
Optima Legal Services 5,440

Mynediad i’r set lawn o ddata

Nodiadau i olygyddion

  1. Cyhoeddir y Data Trafodiad ar bymthegfed diwrnod gwaith pob mis. Cyhoeddir Data Trafodiad mis Gorffennaf am 11 y bore ar ddydd Iau 21 Awst 2014.
  2. Mae’r Data Trafodiad misol yn dangos faint o geisiadau am gofrestriadau cyntaf, prydlesi, trosglwyddiadau o ran, deliadau, copïau swyddogol a chwiliadau a gyflwynwyd gan gwsmeriaid cyfrif y Gofrestrfa Tir. Esboniad o’r termau a ddefnyddir
  3. Mae trafodion am werth yn cynnwys gwerthiannau rhydd-ddaliol a phrydlesol.
  4. Mae’r rhan fwyaf o chwiliadau a gyflawnir gan gyfreithiwr neu drawsgludwr er mwyn gwarchod pryniant a/neu forgais. Er enghraifft, bydd chwiliad yn rhoi blaenoriaeth i brynwr am gais i’r Gofrestrfa Tir i gofrestru pryniant eiddo. I gael rhagor o wybodaeth am y gwahanol fathau o chwiliadau.
  5. Fel adran o’r llywodraeth a sefydlwyd ym 1862, asiantaeth weithredol a chronfa fasnachu sy’n atebol i’r Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes, Arloesedd a Sgiliau, mae’r Gofrestrfa Tir yn cadw ac yn cynnal y Gofrestr Tir ar gyfer Cymru a Lloegr. Mae’r Gofrestr Tir yn ddogfen agored oddi ar 1990.
  6. Gyda’r gronfa ddata o drafodion eiddo fwyaf o’r fath gyda manylion mwy na 23 miliwn o deitlau, mae’r Gofrestrfa Tir yn cefnogi’r economi trwy ddiogelu perchnogaeth eiddo sy’n werth biliynau o bunnoedd.
  7. I gael rhagor o wybodaeth am y Gofrestrfa Tir ewch i www.landregistry.gov.uk
  8. Dilynwch ni ar Twitter @LandRegGov. Dewch o hyd i ni ar LinkedIn, Facebook a’n blog.

Cysylltu

Swyddfa'r wasg

Trafalgar House
1 Bedford Park
Croydon
CR0 2AQ

E-bost HMLRPressOffice@landregistry.gov.uk

Ffôn (dydd Llun i ddydd Gwener 8.30am a 5.30pm) 0300 006 3565

Symudol (5.30pm a 8.30am) 07864 689 344

Cyhoeddwyd ar 22 July 2014