Yn ôl i'r hafan To English language site
Prisiau tai
Cofrestru'ch tir
E-drawsgludo
Addysg a hyfforddiant
Eich hawliau gwybodaeth
Ymarfer
Gwybodaeth am eiddo
E-wasanaethau
E-wasanaethau busnes
Chwilio am eiddo
E-lofnod morgais
Y Gofrestrfa Tir Uniongyrchol

Cynnyrch ychwanegu gwerth
Cynlluniau cyhoeddiadau

Os oes gennych broblemau gydag unrhyw un o'r gwasanaethau ar-lein gweler y manylion cysylltu ar gyfer pob gwasanaeth unigol

Y Gofrestr Tir Ar-lein

Oes gennych ddiddordeb mewn eiddo? Y Gofrestr Tir Ar-lein yw’n gwasanaeth ar-lein newydd i'r cyhoedd sy'n rhoi'r cyfle ichi weld gwybodaeth am fwy nag 19 miliwn o eiddo yng Nghymru a Lloegr yn ddi-drafferth. Mae'n cofnodion cynhwysfawr yn cynnwys cofrestr teitl (sy'n dangos perchnogaeth gyfreithiol, hawliau neu fuddion a morgeisi ar yr eiddo) a chynllun teitl (sy'n dangos y tir a berchnogir) ar gyfer pob eiddo cofrestredig. Ar gyfer y rhan fwyaf o gofrestriadau a wneir ers Ebrill 2000, rydym yn cofnodi'r pris a dalwyd. Gellir llwytho copïau o gofrestri teitl unigol (sy'n dangos y manylion) a chynlluniau teitl ar ffurf PDF am £2 yr un sy'n daladwy trwy gerdyn credyd.


Y Gofrestrfa Tir Uniongyrchol

Gwasanaeth ar-lein i ddeiliaid cyfrif credyd y Gofrestrfa Tir yw'r Gofrestrfa Tir Uniongyrchol, sy’n rhoi mynediad electronig cyflym i ystod o wybodaeth a gedwir gan y Gofrestrfa Tir.


Gwasanaeth Gwybodaeth Tir Cenedlaethol

Mae’r Gofrestrfa Tir yn un o nifer o ddarparwyr data i’r Gwasanaeth Gwybodaeth Tir Cenedlaethol. Wedi ei anelu yn y lle cyntaf at y broses drawsgludo, mae’n cynnig mynediad cyflymach a haws i wybodaeth awdurdodol, cywir a chynhwysfawr am holl dir ac eiddo’r Deyrnas Gyfunol