|
|
|
|
I gael rhagor o wybodaeth ffoniwch ein tîm am ddim ar 0800 678 1678 neu anfonwch neges
ebost atom.
|
|
 |
|
| |

|
|
|
 |
Mae gwarannau digofrestredig yn risg i unrhyw roddwr benthyg, yn arbennig yn yr hinsawdd economaidd bresennol.
Mae Charge Validation yn cynnig cadarnhad cyflym a dibynadwy o gofrestriad a blaenoriaeth benthyciadau diogel mewn fformat sy'n hawdd ei ddarllen. Mae'n rhoi archwiliad clir o bortffolio rhoddwr benthyg, naill ai at ddibenion archwilio rheolaidd neu wrth brynu neu werthu portffolio. Gall rhan uwch y gwasanaeth nodi cofnodion eraill ar y gofrestr sy'n diogelu'r arwystl.
Mae'r rhoddwr benthyg yn rhoi taenlen i'r Gofrestrfa Tir sy'n rhestru'r rhifau teitl neu gyfeiriadau'r eiddo gydag enwau'r perchnogion. Rydym yn paru hwn gyda'n cronfa ddata a nodir y canlyniadau mewn taenlen, gan nodi unrhyw anghysonderau yn glir ac yn gyfleus.
Mae Charge Validation yn amhrisiadwy i gwsmeriaid gan eu helpu gyda'u harchwiliadau rheolaidd neu fel rhan o'u proses olrhain gweithredoedd.
|
|
|
|