|
|
|
|
I gael rhagor o wybodaeth ffoniwch ein tîm am ddim ar 0800 678 1678 neu anfonwch neges
ebost atom.
|
|
 |
|
| |

|
|
|
 |
Gall cwsmeriaid sydd am nodi'r holl eiddo o fewn ardal ddiffiniedig archebu cofnod cyfredol a dibynadwy gan y Gofrestrfa Tir. Mae cyflymder y gwasanaeth yn galluogi cwsmeriaid i weithredu'n gyflym mewn achosion megis prynu gorfodol.
Mae'r Gofrestrfa Tir yn tynnu'r wybodaeth berchnogaeth a stent berthnasol ac yn ei hanfon at y cwsmer gyda haen stent electronig y gellir ei throshaenu i'w system gwybodaeth ddaearyddol. Mae gan yr haen y wybodaeth berchnogaeth wedi'i mewnosod iddi gan roi dehongliad gweledol gyda chyfleuster i'w chadw'n electronig. Mae'n hawdd adnabod tir heb ei gofrestru o'r wybodaeth.
Mae'r gwasanaeth yn cynnwys cynnig cyfesurynnau X/Y ar gyfer ardaloedd cymhleth megis blociau o fflatiau. Gall cwsmeriaid ofyn am daenlen sy'n dangos manylion perchnogaeth a daliadaaeth hefyd a gofyn i'r Gofrestrfa Tir nodi buddion trydydd parti mewn perthynas â morgeisi.
|
|
|
|