|
|
|
|
I gael rhagor o wybodaeth ffoniwch ein tîm am ddim ar 0800 678 1678 neu anfonwch neges
ebost atom.
|
|
 |
|
| |

|
|
|
 |
 |
Gall cwsmeriaid sydd am wybod pryd y bydd arwystl newydd neu newid perchennog yn digwydd mewn perthynas ag eiddo sydd ar eu cofnodion archebu adroddiadau Property Watch rheolaidd gan y Gofrestrfa Tir. Rydym yn darparu'r wybodaeth ddiweddaraf ar ffurf taenlen electronig misol neu chwarterol gan gynnwys manylion fel dyddiad y trosglwyddiad, y pris a dalwyd ac enw'r gwerthwr a'r prynwr.
Mae Property Watch yn apelio at gwmnïau isadeiledd y mae angen y wybodaeth ddiweddaraf am berchnogaeth er mwyn cyflawni pryniannau gorfodol, darparwyr pecynnau am eiddo sy'n gorfod gwybod pan fydd eiddo yn cael ei werth fel y gallent hawlio'r ffi llawn a rheolwyr ased data sydd am lanhau eu portffolios eiddo a monitro gweithgaredd.
Caiff ei anelu at asiantau tai sydd am fonitro eiddo lle y tynnwyd eu cyfarwyddiadau yn ôl fel nad ydynt ar drugaredd perchnogion tai sy'n gwerthu'n breifat yn amhriodol i brynwyr a gyflwynwyd gan yr asiant. Mae Property Watch yn galluogi cwmnïau i nodi gwerthiannau lle maent o'r farn y gallent hawlio ffi.
Fel y dywedodd un cwsmer bodlon: "Rydym wedi adennill comisiwn a fyddai wedi'i golli fel arall. Byddwn yn falch o argymell Property Watch ar gyfer 0monitro eiddo a dynnir yn ôl gan fod y wybodaeth yn ddull amhrisiadwy sy'n fy nghalluogi i wybod beth sy'n digwydd nessaf gyda'r gwerthiannau coll hyn a phenderfynu a ddylid cymryd camau pellach."
|
|
|
|