|
|
|
|
I gael rhagor o wybodaeth ffoniwch ein tîm am ddim ar 0800 678 1678 neu anfonwch neges
ebost atom.
|
|
 |
|
| |

|
|
|
 |
Mae cwsmeriaid sydd am gael gwybodaeth gywir, ddibynadwy a gonest am brisiau tai er mwyn dadansoddi tueddiadau a phatrymau yn y farchnad dai yn troi at Price Paid information y Gofrestrfa Tir.
Rydym yn cynnig set data prisiau cynhwysfawr ar gyfer holl werthiannau preswyl yng Nghymru a Lloegr. Mae'r data ar gael o 1 Ionawr 1995 a chaiff ei diweddaru'n fisol.
Mae ein cwsmeriaid yn cynnwys arbenigwyr y farchnad eiddo a gwefannau gwerthu eiddo sy'n cynnig gwybodaeth am brisiau tai. Rydym yn cyflenwi'r awdurdodau lleol sy'n asesu fforddiadwyedd tai yn eu hardaloedd, asiantau tai sy'n penneu eu rhan o'r farchnad a datblygwyr eiddo a phriswyr sy'n gorfod cael syniad dibynadwy o brisiau tai cyfartalog mewn ardal benodol.
Gall cwsmeriaid ddewis prynu'r set ddata gyfan a/neu gael y wybodaeth ddiweddaraf yn fisol, neu archebu adroddiadau prisiau tai wedi'u haddasu i'w dibenion eu hunain, gan newid blwyddyn a manylion y wybodaeth yn ogystal ag amlder y wybodaeth ddiweddaraf.
|
|
|
|